Pam mae gofalu am eich llesiant meddyliol yn bwysig i chi?
Mae’n sylfaen i ansawdd bywyd, lle gallaf gael sefydlogrwydd, meddu ar y gallu i weithredu cystal ag y bo modd, a rheoli’r heriau iechyd meddwl a chorfforol yr wyf yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich llesiant meddyliol?
Rwy wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol a gorbryder, felly mae rheoli fy hwyliau, sut rydw i’n ymateb i amgylcheddau penodol, ac atal problemau yn gyffredinol, yn gofyn am lefel dda o hunanofal.
Dydw i ddim yn un am ymarfer corff, neu fwyta’n arbennig o iach, felly mae fy hunanofal yn bodoli mewn ffurfiau eraill.
Cerddoriaeth sy’n rhoi’r pleser mwyaf i mi ac mae’n llinyn mesur o ran sut rydw i’n teimlo ar unrhyw adeg benodol.
Pan fydda i’n dechrau chwarae albwm neu restr chwarae, dyna’r trac sain i fy niwrnod. Rwy’n gallu chwarae caneuon rwyf wedi’u caru ers blynyddoedd lawer, neu wrando ar artistiaid newydd nad wyf wedi clywed amdanynt o’r blaen.
Mae hyn yn sbarduno hiraeth a llawenydd. Ar adegau bydd cerddoriaeth yn fy helpu i drwy ddiwrnod gwael. Gall godi fy hwyliau, fy helpu i ymlacio, fy ngalluogi i ganolbwyntio’n well, neu fy ngwneud yn hapus. Fel arfer byddaf yn gwrando ar gerddoriaeth gartref neu yn y car. Does gen i ddim llais canu, ac rwy’n dueddol o gael y geiriau’n anghywir, ond does dim ots – mwynhau eich hun sy’n bwysig. Rwy’n gwybod nad yw popeth yn iawn os bydda i’n mynd diwrnod heb gerddoriaeth.
Rwy’n trio mynd i gigs pan rwy’n gallu, sy’n brofiad hollol wahanol, gan ei fod yn rhywbeth rydych chi’n ei rannu gyda chynulleidfa, ac yn rhyngweithio â phwy bynnag sydd ar y llwyfan. Mae’n wefr go iawn.
Mae cwsg yn werthfawr i mi, ac rwy’n ceisio gwrando ar fy nghorff a mynd i’r gwely pan fydd gwir angen.
Rwyf hefyd yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer fy iechyd meddwl. Er nad dyma’r ateb i bopeth, mae wedi bod yn nodwedd allweddol o ran rheoli fy iechyd meddwl ers blynyddoedd lawer.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich llesiant meddyliol?
Ers mis Ebrill, rwyf wedi bod yn defnyddio ap rhad ac am ddim o’r enw Pixy i gofnodi fy hwyliau dyddiol. Rwy’n hoffi’r ffaith ei fod yn cynhyrchu dau fath o graff, gan fod yn well gennyf weithiau data gweledol. Ar yr ap, gallaf hefyd restru fy emosiynau, gweithgareddau ac ansawdd cwsg.
Drwy wneud hyn, gallaf weld a oes unrhyw dueddiadau, neu bethau rwy’n eu gwneud, sy’n dangos pam mae fy iechyd meddwl fel y mae o un diwrnod i’r llall. Er enghraifft, rwyf wedi canfod bod diwrnod gwael yn dilyn diwrnod sy ‘ddim mor ddrwg’ – sef dau begwn anhwylder deubegwn.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu?
Cael rhywun yn eich bywyd sydd bob amser yn gefn i chi. Mae fy ffrind gorau yn amhrisiadwy. Mae hi wedi fy helpu i drwy gymaint o gyfnodau anodd dros y blynyddoedd, ac rwy’n eithaf sicr na fyddwn i yma oni bai amdani hi. Rydyn ni’n anfon neges at ein gilydd bron bob dydd, yn cyfarfod yn rheolaidd, a gallaf fod yn gwbl agored a siarad am unrhyw beth a allai fod yn peri pryder i mi. Mae hefyd yn ymwneud â chymdeithasu a chael rheswm da i fynd allan o’r tŷ.
Nid wyf yn ei chymryd yn ganiataol ac rwy’n gwybod y gallaf alw arni mewn argyfwng.
Nid yw teimlo’n ynysig ac unigrwydd yn helpu ein llesiant meddyliol, felly rwy’n gobeithio bod gennych chi rywun a all gerdded ochr yn ochr â chi drwy anawsterau bywyd.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Wrth nofio yn y môr, rydw i’n wirioneddol rydd

Gwneud gleinwaith a gwaith weiren ar gyfer fy lles

Llawenydd i Dadau
