Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Rwy’n hoffi bod yn synhwyrol o ran cadw trefn ar bethau, felly dydw i ddim yn poeni’n ormodol am bethau – hyd yn oed os oes pethau heriol yn fy mywyd, rwy’n dal i geisio dod o hyd i amser i wneud rhywbeth braf neu werthfawrogi rhywbeth o’m cwmpas.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn warchod a gwella eich lles meddyliol?
Rwy’n hoffi gwneud yn siŵr fy mod yn cymryd ychydig funudau i wrando ar rywbeth ar y radio wrth olchi llestri a glanhau’r gegin.
Ar y diwedd, mae gen i le glanach i fyw ynddo ond hefyd dwi wedi mwynhau’r rhaglen, efallai fy mod i wedi cael hwyl neu wedi dysgu rhywbeth.
Dwi hefyd wedi bod yn defnyddio’r ap ‘Active 10’ (linc Saesneg yn unig) i gerdded yn gyflym bob dydd. Pan fyddaf allan yn cerdded, rwy’n gweld beth mae pobl wedi’i blannu yn eu gerddi, beth sy’n tyfu ar ymyl y ffordd ac yn edrych am flodau nad ydw i’n eu hadnabod. Weithiau rwy’n tynnu lluniau fel y gallaf eu hadnabod yn ddiweddarach.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Eleni rydw i wedi bod yn gwneud yn siŵr bod golygfa braf y tu allan i ffenestr y gegin ac rydw i’n ychwanegu bwyd at beiriant bwydo adar sy’n hongian yno. Felly pan dwi’n aros i’r tegell ferwi, gallaf edrych allan o’r ffenest a chymryd eiliad i fwynhau’r hyn y gallaf ei weld.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu’n gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
Rwy’n ceisio rhoi arferion yn fy niwrnod sy’n gwneud i mi deimlo’n dda, felly beth bynnag mae bywyd yn ei daflu ataf, gallaf ddelio ag ef.
Cofnodion eraill
Gweld popethYmarfer diolchgarwch ac ymwybyddiaeth ofalgar – a dweud na

Mae coed yn rhoi persbectif cwbl wahanol i mi

Ymgolli ym myd natur
