Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Michael Barnes

Beth sy’n rhyddhau’ch llawenydd? Beth sy’n eich gwneud chi’n hapusach na mi?

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau
Mam a'i dau blant yn eistedd ar meinc parc.

Beth sy’n rhyddhau’ch llawenydd? Beth sy’n eich gwneud chi’n hapusach na mi?

Michael Barnes
Mam a'i dau blant yn eistedd ar meinc parc.

Golwg fer sydyn ar yr hyn y mae hapusrwydd yn ei olygu i bobl Cymru ac a yw gwneud cymariaethau’n effeithio ar ein.

Yn sicr, mae pob un ohonom yn ceisio cael hapusrwydd o ryw fath. Ond peth personol yw hapusrwydd – gall yr hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus fod yn wahanol i’r hyn sy’n gweithio i eraill. Felly mewn gwirionedd, er mwyn ceisio hapusrwydd mae angen i chi ddeall beth mae hapusrwydd yn ei olygu i chi. Efallai bod angen i ni ofyn ychydig o gwestiynau i ni’n hunain i’n helpu; Beth mae Hapusrwydd yn ei olygu i mi? Beth allai fy atal rhag bod yn hapus?

Roeddwn i’n meddwl tybed a allai cymharu fod yn rhwystr cyffredin i’n hapusrwydd. Rydym yn eithaf da am gymharu ein hunain ag eraill yn y wlad hon – mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n llawer rhy hawdd, felly ydy ein diwylliant o gymharu pethau’n effeithio’n uniongyrchol ar ein bodlonrwydd?

Gan fod Hapusrwydd yn wahanol i bawb, byddai’n wallgof ystyried safbwynt un person yn unig, felly gofynnais i aelodau’r cyhoedd beth mae hapusrwydd yn ei olygu iddyn nhw, a beth sy’n eu gwneud nhw’n hapusach na mi? Roedd hyn er mwyn gweld a oedd hi’n hawdd cymharu wyneb yn wyneb, neu ai dim ond y tu ôl i sgriniau rydym yn gwneud cymariaethau, neu a fyddai pobl yn gweld y tu hwnt i’r elfen o gymharu mewn gwirionedd ac yn tynnu sylw at yr hyn maen nhw’n ei wneud i fod yn hapus na fyddai pobl eraill yn ei wneud.

Roeddwn yn meddwl tybed pa mor aml ydym yn meddwl am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n hapus ac a ydym yn mynd ati i wneud y pethau hynny, ond hefyd a oes modd cymharu mewn ffordd well a chael ein hysbrydoli gan yr hyn y mae eraill yn ei wneud i’w gwneud yn hapus a gwneud pethau hynny yn ein bywyd ein hunain.

Yn anad dim, roeddwn hefyd yn gobeithio y byddai’r fideo’n gwneud i ni feddwl am yr hyn a allai wella ein hapusrwydd a’n lles ein hunain.

Mae’n anhygoel faint o bobl a oedd yn fodlon ateb fy nghwestiynau, ondyn penderfynu peidio o flaen y camera.. Efallai fod hyn yn dangos ein pryderon dwfn ynghylch cael ein beirniadu neu ein cymharu â phobl eraill (diolch byth bod digon o bobl wedi cytuno i gael eu recordio o hyd).

Roedd yr atebion yn ei gwneud yn glir bod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod yn cymharu eu bywydau ac, o ganlyniad i hynny, eu hapusrwydd ag eraill. Roedd y rhai a oedd yn anghytuno, yn ei gwneud yn glir i mi fod cymharu yn broblem mewn cenedlaethau a diwylliannau.

Er hyn, y cwestiwn anoddaf i lawer o bobl oedd ‘beth mae hapusrwydd yn ei olygu i chi’ neu yn wir ‘beth ydych chi’n ei wneud i fod yn hapus’. Yn rhy aml, gall ein hapusrwydd ein hunain gael ei wthio o’r neilltu yn ein bywydau prysur.

Yn ystod bron pob un o’m cyfweliadau a’m sgyrsiau ag eraill, daeth yn amlwg i mi y dylai pob un ohonom gymryd rhywfaint o amser i ateb y cwestiynau hyn dros ein hunain. I ni gael rhywbeth i anelu ato, cynllun i ddod yn ôl ato, neu o leiaf ein hatgoffa o’r pethau sy’n ein gwneud ni’n hapus ac sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ein lles. Ac i geisio cofio y gall cymharu’n fyrbwyll ddwyn ein llawenydd ac nid yw hynny’n helpu ein hapusrwydd. Mae cael ein hysbrydoli gan eraill yn wahanol. Mae angen i ni fantesio ar yr hyn sy’n gweithio i bobl eraill a gweld a  yw’n gallu ein helpu ni; wedi’r cyfan mae hapusrwydd yn rhywbeth unigryw.

Felly, eich tro chi yw hi nawr – beth mae hapusrwydd yn ei olygu i chi? Beth sy’n eich gwneud chi’n hapusach na fi? Beth ydych chi’n ei wneud mewn gwirionedd i ofalu am eich bodlonrwydd eich hun, ac a yw’n bryd gwneud hynny gyda mwy o fwriad?

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r fideo ac y bydd yn eich ysbrydoli i chwilio am eich hapusrwydd, eich bodlonrwydd a’ch lles eich hun.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.