Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Ar gyfer fy iechyd, hapusrwydd, boddhad bywyd, cynhyrchiant ac er mwyn gallu cefnogi eraill o’m cwmpas.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?
Cyfyngu ar fy nefnydd o gyfryngau cymdeithasol, canolbwyntio llai ar y newyddion, myfyrio’n ddyddiol, ymarfer diolchgarwch bob dydd, gwneud ymarfer corff bob dydd, cymdeithasu’n wythnosol, blaenoriaethu cwsg a bwyta diet iach, cytbwys.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Darllen/gwrando ar bodlediadau am iechyd a lles, a sut i’w ddiogelu a’i wella yn y gymdeithas sydd ohoni.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
Er mwyn gwella eich lles meddyliol, mae’n rhaid i chi ddod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gweithio yn eich erbyn er mwyn i chi allu gwneud newidiadau.
Nid yw’n newid yn sylweddol dros nos; mae’n cymryd amser i sylwi ar welliannau ar ôl i chi ddechrau gwneud y newidiadau angenrheidiol.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Cadw’n actif yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn feddyliol ar gyfer fy llesiant

Blaenoriaethu fy lles meddyliol fel rhywun sydd wedi ymddeol

Gofalu am fy lles meddyliol fel y gallaf roi i eraill

