Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Vanessa

Syllu ar y lleuad a’r sêr ar noson glir

Wedi’i rhannu yn: Cysylltu â natur
Awyr nos gyda lleuad llawn.

Syllu ar y lleuad a’r sêr ar noson glir

Vanessa
Awyr nos gyda lleuad llawn.

Rwy’n fam 40 oed i blentyn oedran ysgol gynradd, ac rydym yn byw mewn ardal wledig.

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Oherwydd fy mod i’n fam ac yn gwybod pan fydd fy lles yn dda, rwy’n fam well. Rwy’n fwy ymatebol i anghenion fy mhlentyn, ac rwy’n gallu rheoli fy emosiynau yn well.

Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?

Llawer o bethau! Mynd allan i’r awyr iach, i fyd natur a sylwi ar bethau bach sy’n gwneud i mi wenu, fel blodau newydd yn agor, yr haul yn sbecian o’r tu ôl i gwmwl, syllu ar y lleuad a’r sêr ar noson glir. Mae syllu ar y sêr a meddwl am natur ddi-ben-draw y gofod yn rhoi ymdeimlad mawr o syndod a rhyfeddod i mi; mae’r bydysawd yn wirioneddol anhygoel!

Bod gyda fy nheulu ac osgoi pethau sy’n gallu tynnu fy sylw (fel fy ffôn!) yn ystod yr adegau hynny fel fy mod i’n gwneud y mwyaf ohono (dw i ddim yn wych am wneud hyn ond rwy’n dal i drio!). Mae garddio yn gwneud i mi deimlo’n dda hefyd.

A oes gennych unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu?

Mae fy lles i fyny ac i lawr. Rwy’n ceisio siarad â phobl sy’n agos ataf pan fyddaf yn teimlo bod pethau’n effeithio arnaf mewn ffordd negyddol. Weithiau mae’n anodd rhoi bys ar yr hyn sy’n fy mhoeni, ond mae siarad yn fy helpu i wneud synnwyr ohono.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.