Wrth feddwl am fy mhrif ffynhonnell o hapusrwydd, ni allaf ond meddwl am fy merch, Nora. Mae greddf Nora ar gyfer creu llawenydd yn naturiol, yn ddiymdrech ac yn ysbrydoli. Ei nod mewn unrhyw
sefyllfa yw ‘sut gallaf wneud hyn yn fwy o hwyl?’. Rwy’n gweld bod dilyn ei hesiampl yn fy ngalluogi i
brofi ei llawenydd ar adegau pan fyddai prysurdeb bywyd yn aml yn ffrwyno fy ngolwg.
Dydw i ddim yn teimlo bod tadau yn cael eu hannog yn naturiol i fod y rhai i arwain chwarae gyda’u plant. Hyd yn oed mewn byd llawer mwy blaengar na’r un y cefais fy magu ynddo, rwy’n dal i deimlo nad yw fod yn wirion a chwareus gyda fy mhlentyn wedi’i ‘ddisgwyl’ ohonof i yn fy rôl gymdeithasol fel ‘tad’. A phan alla i fwrw’r hualau hyn o ddisgwyliadau cymdeithasol i ffwrdd, rhoi fy ngwaith i lawr, a mireinio fy ffocws i fod yn gwbl bresennol gyda Nora – mae fy mywyd yn mynd yn fwy llawen a hapus o lawer.
Wrth wneud y cyfresi hyn o ffilmiau, fy mwriad oedd annog tadau eraill i ddilyn arweiniad eu plentyn – i chwarae a myfyrio ar y ffynhonnell ryfeddol hon o lawenydd a hapusrwydd, y gellir ei hanwybyddu’n aml yng nghanol straen bywyd, pwysau gwaith a’r blinder a ddaw o fyw mewn byd modern. I arafu a bod yn fwy ystyriol, a bod yn llai hunanymwybodol o gael hwyl. Ymhyfrydu yn y llawenydd sy’n dod o fod yn dad.
Rhywbeth mewn Dim
Mae Tim yn cael ysbrydoliaeth gan ei ferch Viola, a’i dawn i greu eiliadau o lawenydd allan o bethau dibwys.
Llonyddwch yn Symud
Mae Joey yn myfyrio ar yr hyn y mae ei ffydd wedi ei ddysgu iddo wrth ddod o hyd i eiliadau o lonyddwch yng nghanol anhrefn magu plant.
Hapusrwydd o Fod yn Dad
Mae Jake yn dilyn arweiniad ei ferch Daisy i greu’r llawenydd mwyaf posibl yn eu bywydau bob dydd.