Ffilm 16mm yn cyfuno atebion go iawn i’r cwestiwn ‘Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?’ gyda model deallusrwydd artiffisial (AI) i greu stori wreiddiol.
Gwnes i gais am y comisiwn gyda’r syniad i gasglu atebion gan bobl go iawn i’r cwestiwn ‘Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?’ a defnyddio ChatGPT i’w troi’n stori. Dwi wrth fy modd yn chwarae gyda thechnolegau newydd ac yn dod o hyd i ffyrdd diddorol o’u defnyddio i wneud celf. Gwnes i fwynhau’r cyfle i sgwrsio am y ffordd mae technoleg yn dylanwadu ar iechyd meddwl ar gyfer ymgyrch newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwnes i greu fideos ar gyfer cyfryngau cymdeithasol 73 Degree Films yn gofyn i bobl ateb y cwestiwn ac fe gawsom gyfanswm o 179 o ymatebion. Gwnes i ddefnyddio’r rhain i greu sbardun ar gyfer ChatGPT, a gymerodd yr atebion i lunio sgript ar gyfer ffilm wedi’i lleoli yn Wrecsam.
Wedyn, roeddwn i’n gweithio gyda Leighton Cox, fy Nghyfarwyddwr Ffotograffiaeth (a enwebwyd ar gyfer Emmy am ei waith ar y gyfres Disney+ ‘Welcome to Wrexham’) ar gynllun i wthio’r syniad analog-ddigidol ymhellach drwy ffilmio ar ffilm 16mm. Cawsom gefnogaeth Sunbelt Rentals i logi rhywfaint o’u cit a daethant â chriw bach at ei gilydd i ffilmio dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn Wrecsam. Ar ôl i ni orffen, fe wnes i danfon y blychau ffilm i Kodak yn Pinewood Studios.
Yn y diwedd, daeth darn olaf y jig-so at ei gilydd wrth i mi gwrdd â thîm DAACI yn SXSW. Roeddwn i wedi bod yn chwilio am gwmni i’n helpu i greu cerddoriaeth wreiddiol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, felly roeddem yn lwcus iawn eu bod yn gweithio ar y datrysiad hwn a’u bod eisiau cefnogi prosiect Cymraeg.
Wrth i dechnolegau newydd effeithio’n fawr ar y ffordd rydym yn teimlo amdanom ein hunain a’r byd o’n cwmpas, mae’r ffilm hon yn arbrawf i gyfuno’r byd digidol ac analog. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth byr, hoffus a dynol. Dwi’n gobeithio ei fod yn ein hatgoffa nad yw ein cydfodolaeth â thechnoleg yn golygu bod yr hyn rydym yn ei greu yn llai perthnasol i’n profiadau. Dwi’n gobeithio y bydd yn helpu pobl i feddwl sut mae technoleg yn effeithio ar eu hiechyd meddwl ac ystyried sut y gallai’r dyfodol fod mor gadarnhaol a real â phosibl.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Adeiladu cuddfannau gyda fy mab a gwrando ar y môr

Syllu ar y lleuad a’r sêr ar noson glir

Cael fy joie de vivre yn ôl ar ôl cyfnod o salwch meddwl
