Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae bod yn iach yn feddyliol yn golygu fy mod yn fwy gwydn ac yn gallu mwynhau bywyd (a gwaith!) a chefnogi eraill i wneud yr un peth.
Beth ydych chi’n ei wneud warchod a gwella eich lles meddyliol?
Rwy’n cerdded neu’n rhedeg bob bore cyn gwaith, yn treulio amser yn cysylltu â fy nheulu fy ffrindiau, yn gwnïo ac yn darllen.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Dim byd newydd – dim ond cynnal yr hyn rwy’n ei wybod sy’n gweithio’n dda i mi.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
Cymerwch eiliad bob bore i fyfyrio ar sut rydych chi’n teimlo, pam y gallai hynny fod a beth mae’n ei olygu i sut rydych chi’n mynd i’r afael â’r diwrnod sydd i ddod.