Dwi’n fenyw yn fy mhedwardegau.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Fy hoff le i fod pan fydd angen i mi ymlacio yw’r goedwig, yn gwrando ar y synau, yn sylwi ar yr hyn sydd o’m cwmpas ac yn gwerthfawrogi prydferthwch natur.
Dwi’n hoff iawn o goed, yn enwedig yr hen rai. Mae bod yn eu canol nhw yn fy nhawelu.
Dwi’n ceisio cofio edrych i fyny drwy’r coed a gweld pethau o bersbectif gwahanol, yn llythrennol!
Dwi’n ddigon ffodus i fod yn byw ger coedwigoedd hynafol bach. Mae maint a graddfa’r coed hyn wastad yn fy rhyfeddu.
Mae meddwl ers faint maen nhw wedi bod yno yn fy ysbrydoli, beth maen nhw wedi’i weld a pha mor hir y byddan nhw yma ar ôl i mi farw!
Cofnodion eraill
Gweld popethGofalu am fy lles fel gofalwr

Treulio amser yn yr awyr agored yn lle o flaen sgrin

Mae cerddoriaeth yn codi fy ysbryd
