Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Diane

Blaenoriaethu fy lles meddyliol fel rhywun sydd wedi ymddeol

Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau Cysylltu â natur
Enfys ar ben ynys bach ar y mor.

Blaenoriaethu fy lles meddyliol fel rhywun sydd wedi ymddeol

Diane
Enfys ar ben ynys bach ar y mor.

Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?

Rwy’n ceisio, os gallaf, dynnu fy hun o sefyllfa wenwynig neu rywbeth sy’n achosi i mi deimlo dan straen a phryder. Os na allaf, yna byddaf yn gwneud pethau sy’n rhoi pleser i mi fel mynd allan, mynd â’r ci am dro, nofio dŵr oer, pobi neu wrando ar gerddoriaeth. Dydw i ddim bob amser eisiau cwmni – weithiau mae bod ar fy mhen fy hun gyda fy meddyliau fy hun yn fuddiol.

Cymryd seibiant i chi’ch hun yw un o’r pethau anoddaf i’w wneud, ond, ers imi ymddeol, sylweddolaf mai anaml y gwnes i hyn ac yn difaru nad oeddwn wedi gwneud hyn yn flaenoriaeth tan nawr.

Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?

Ymuno â’r Bluetits yn nofio dŵr oer (linc Saesneg yn unig) – dw i ond wedi llwyddo i ddau nofiad wedi eu trefnu hyd yma, ond rwyf wrth fy modd yn gweld eu postiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Hefyd rhoddais y gorau i fy ngwaith ac roedd hyn yn hynod fuddiol. Mae gen i fwy o amser i wneud y pethau rwy’n eu hoffi ac eisiau eu gwneud.

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Os oeddech yn profi unrhyw salwch corfforol neu anghysur, byddech yn fwy na thebyg yn gwneud rhywbeth yn ei gylch i’w atal rhag gwaethygu; dylai lles meddyliol hefyd fod yn flaenoriaeth ac, os caiff ei anwybyddu, mae’n debygol o waethygu.

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.

Mae mynd allan i’r awyr agored a gwerthfawrogi beth sydd ar gael mor ddefnyddiol i mi. Mewn byd o erchyllterau o’r fath, mae dod o hyd i hapusrwydd mewn pethau syml yn rhywbeth y gallwch chi ei reoli.

Mae dod o hyd i hapusrwydd mewn pethau syml yn rhywbeth y gallwch chi ei reoli.

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu?

Dim ond unwaith yr ydych ar y ddaear hon. Gwnewch iddo gyfrif.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.