Mae gweithleoedd yn gymunedau pwysig, a bydd gofalu am les meddyliol eich cydweithwyr yn helpu i greu amgylchedd hapusach – sef un sy’n meithrin cynhyrchiant a chydweithio.
Cymru Iach ar Waith
Mae Cymru Iach ar Waith yn cynnig canllawiau, offer dysgu a datblygu am ddim, a dulliau o gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth i’ch helpu i feithrin sgiliau a’r gallu i gefnogi iechyd a lles eich staff.
Mae gan ei ganllawiau iechyd meddwl a lles ystod eang o wybodaeth i’ch helpu chi i:
- hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol
- cynnig cefnogaeth briodol pan fo angen
- monitro iechyd meddwl a lles eich gweithwyr.
P’un a yw eich busnes yn fawr neu’n fach, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i hybu lles yn y gweithle.
Ewch i Cymru Iach ar Waith heddiw
