Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les
gan: Deb

Dod o hyd i dawelwch meddwl yn fy rhandir

Wedi’i rhannu yn: Hobïau a diddordebauCysylltu â natur
Rhandir.

Dod o hyd i dawelwch meddwl yn fy rhandir

Deb
Rhandir.

Rydw i’n nyrs, yn wraig ac arddwraig wen 54 oed o Gymru.

Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?

Mae lles meddyliol da yn hanfodol er mwyn i mi fod yn barod am unrhyw beth ac er mwyn i mi weithio’n effeithiol ac yn effeithlon. Os ydw i dan straen, dwi’n tueddu i deimlo’n bryderus.

Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?

Dwi’n ceisio cadw at oriau fy nghontract lle bo modd. Dwi’n cymryd egwyl cinio bron bob dydd, er nad yw mor hawdd â hynny gan ein bod ni ar gael drwy’r amser ar Microsoft Teams.

Dwi’n gweithio’n rhan amser bellach, gan ddechrau arafu cyn ymddeol y flwyddyn nesaf.

Mae gen i randir a dwi’n chwarae golff, ac mae’r ddau beth hyn yn sicrhau fy mod yn cael ymarfer corff ac awyr iach (a llysiau ffres).

Dyma fy rhandir – dim ond eleni y dechreuon ni, ar ôl bod ar y rhestr aros ers cyn Covid. Dwi’n mwynhau tyfu ein llysiau ein hunain, ac mae deiliaid y plotiau eraill wedi bod mor barod i helpu. Dwi’n mynd yno i gael tawelwch meddwl.

Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?

Gweithio’n rhan amser – rhannu swydd. Cyn hyn, roeddwn i’n cael trafferth rheoli fy llwyth gwaith.

Ydych chi eisia rhannu unrhyw beth arall? Gall hyd fod yn ddyfyniad neu’n gyngor rydych chi eisiau ei roi i bobl eraill.

It’s over and done with! (Cân gan The Proclaimers.) Os bydd rhywbeth drwg neu negyddol yn digwydd, dysgwch ohono a’i adael yn y gorffennol. Does dim pwynt meddwl amdano a chosbi eich hun.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.