Fy enw i yw Kirsti. Mae gen i syndrom Ehlers-Danlos ac mae gweithgaredd yn boenus; Rwy’n mynd yn genfigennus o weld eraill yn gwneud gweithgareddau heb ffiniau ond wrth nofio yn y môr rwy’n wirioneddol rydd.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?
Mae gweithgaredd yn aml yn anodd i mi oherwydd fy anabledd, ond roeddwn bob amser wedi mwynhau nofio a bod yn y dŵr.
Fodd bynnag, rwy’n diflasu mewn pwll nofio, felly dechreuais chwilio am ffyrdd eraill o fwynhau a charu’r awyr agored. Ond mae cerdded yn boenus felly cyfunais y ddau a dechrau nofio dŵr oer.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Ymunais â’r Bluetits Chill Swimmers yng Ngogledd Cymru ac rwy’n nofio yn rheolaidd yn y môr oddi ar draeth Prestatyn.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gen i swydd llawn straen ac anabledd dirywiol, felly mae lles meddwl da yn fy nghadw i ymladd.
Fi a fy chwaer yn mwynhau trochi yn y môr yn Nova Prestatyn.
Fi a fy chwaer yn mwynhau trochi yn y môr yn Nova Prestatyn.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
Ewch ati a gwnewch y gweithgaredd anarferol hwnnw – ni fyddwch byth yn edrych yn ôl.