Rwy’n fenyw 50+.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gen i fwy na’r cyfartaledd o gyfrifoldebau teuluol am sawl aelod o’r teulu, ac rwy’n gweithio’n llawn amser. Mae’n hollbwysig fy mod yn cadw’n iach yn feddyliol er mwyn rheoli fy nghyfrifoldebau’n effeithiol.
Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?
Dwi’n ceisio bwyta diet cytbwys. Rwy’n codi’n gynharach yn y bore i wneud tasgau yn y tŷ ac ymarfer corff cyn gwaith. Rwy’n mynd i’r gwely ar amser mwy rhesymol yn y nos er mwyn sicrhau fy mod yn cael digon o gwsg!
Rwy’n ceisio bod yn garedig â mi fy hun trwy ystyried ‘amser i mi’ – dydy hynny ddim bob amser yn hawdd, ond mae’n angenrheidiol.
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Dwi wedi ceisio delio â fy meirniad mewnol a bod yn garedig â mi fy hun.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
“Credwch yn eich cryfder bob amser, oherwydd hyd yn oed pan fyddwch ar eich gwannaf, bydd rhywbeth dwfn o fewn chi bob amser na fydd byth yn caniatáu i chi roi’r gorau iddi!” – Roger Lee
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Wrth nofio yn y môr, rydw i’n wirioneddol rydd

Blaenoriaethu fy lles meddyliol fel rhywun sydd wedi ymddeol

Chwarae cerddoriaeth yn uchel a chanu gyda fy mab yn y gegin
