Beth ydych chi’n ei wneud er mwyn amddiffyn a gwella eich lles meddyliol?
Rhoddais gynnig ar bopeth a chael cyffuriau gwrth-iselder, a oedd yn ergyd wirioneddol i fy hunan-barch. Ond maen nhw wedi bod mor effeithiol ac wedi fy ngalluogi i barhau i wneud yr holl bethau rwy’n eu mwynhau. Mynd allan, cyfarfod ffrindiau a theulu, dechrau hobïau newydd. Mae fy joie de vivre yn ôl!
Mae fy joie de vivre yn ôl!
Nodwch un peth rydych chi wedi dechrau ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi helpu eich lles meddyliol?
Nofio gwyllt.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae’n effeithio ar bopeth. Os ydych chi’n teimlo’n isel, nid ydych chi eisiau gwneud unrhyw beth, gan gynnwys cymysgu â phobl eraill.

Rwyf wrth fy modd yn bod yn actif, yn cyfarfod â phobl a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd. Fe wnaeth afiechyd meddwl ddwyn hynny oddi wrthyf, a doeddwn i ddim yn ‘fi’ bellach. Peidiwch â bod ofn na chywilydd ceisio cymorth meddygol os ydych chi’n cael trafferth.
Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu? Gall hyn fod yn ddyfyniad neu gyngor yr hoffech chi ei roi i eraill.
Peidiwch â bod ofn na chywilydd ceisio cymorth meddygol os yw eich salwch meddwl yn effeithio ar ansawdd eich bywyd.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Ymgolli ym myd natur
Ymarfer diolchgarwch ac ymwybyddiaeth ofalgar – a dweud na

Sylwi ar bethau arbennig bywyd, wedi’i ysbrydoli gan farddoniaeth Mary Oliver
