Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gofalu am fy lles meddyliol yn gwneud i mi deimlo fy mod i’n gwarchod fy iechyd meddwl. Pan rwy’n ymwybodol o fy lles ac yn dilyn arferion dyddiol sydd o fudd iddo, dwi’n teimlo’n fwy bodlon â bywyd ac mewn sefyllfa well pan fydd pethau’n mynd o chwith neu pan fydd bywyd yn anodd!
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Dwi’n ceisio treulio 10 munud bob dydd yn myfyrio neu’n gwneud ymarfwrion anadlu. Ond dwi’n gweld hynny’n anodd, ac mae’n hawdd rhoi gorau i ymarfer; pan fydda i’n cadw ato, dwir wir yn teimlo’r manteision yn tymor hir – dwi’n teimlo fy mod i’n deall fy hun yn well a fy mod i’n fwy tosturiol ataf fi fy hun. Dwi’n gallu ymateb yn well i sefyllfaoedd ac mae gen fwy o reolaeth dros fy emosiynau.