Dwi’n ofalwr i oedolyn ifanc sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) ac sydd wedi cael diagnosis o’r cyflwr iechyd meddwl anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD).
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae gofalu am rhywun yn heriol ac yn flinedig ac mae wedi effeithio ar fy mherthnasoedd a fy incwm, ymysg pethau eraill.
Mae rôl y rhan fwyaf o ofalwyr yn un 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Dydyn ni ddim yn cael diwrnod i ffwrdd.
Mae’r rhan fwyaf yn byw mewn tlodi oherwydd eu bod nhw ddim yn gallu gweithio. Does gennym ni ddim llawrt o bobl i siarad â nhw oherwydd ein rôl ofalu.
Felly, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu parhau i ofalu, mae’n rhaid i ni geisio gofalu amdanom ni ein hunain, a dydy hynny ddim y’n hawdd bob tro.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Dwi’n neilltuo ychydig funudau i mi fy hun bob dydd, cyfnodau byr i yfed paned neu i liwio. Mae hyn yn fy helpu i reoli fy emosiynau.
Dwi’n manteisio ar gefnogaeth gofalwyr eraill. Dwi’n un o ymddiriedolwyr Fforwm Rhieni-Ofalwyr Abertawe. Rydym yn gwrando ar ein haelodau ac yn cyfleu eu sylwadau mewn cyfarfodydd strategol yn yr awdurdod lleol, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai i helpu rhieni sy’n ofalwyr.
Dwi’n rhoi fy amser a fy marn i helpu i ddylanwadu ar y gefnogaeth mae gofalwyr yn ei chael. Ges i brofiad cadarnhaol o’r awdurdod lleol yn gwrando arnaf ac yn diwallu fy anghenion drwy fy helpu i gael taliadau uniongyrchol i fy helpu yn fy rôl ofalu. Fe wnaeth hyn fy nghymell i helpu pobl eraill i gael profiadau gwell wrth gael gafael ar gymorth.
Dwi’n teimlo’n angerddol âdros helpu i wella’r system i ofalwyr y dyfodol a’r rhai y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw; mae hefyd yn rhywbeth dwi’n ei wneud i mi fy hun y tu hwnt i fy nghyfrifoldebau gofalu.
Mae’n helpu fy lles pan fyddaf yn gweld y system yn newid neu pan fydd pobl yn meddwl mewn ffordd wahanol oherwydd fy mod i’n treulio amser yn rhannu fy marn.
Ydych chi eisiau rhannu unrhyw beth arall? Gallai hyn fod yn sylw neu’n gyngor ydych chi eisiau ei roi i bobl eraill.
Ceisiwch gysylltu â chydlynydd eich ardal leol yn eich cyngor lleol i gael cymorth i ganfod beth sydd ar gael yn lleol – mae canfod grŵp o ofalwyr sy’n deall fy mhrofiad i wedi bod yn ddefnyddiol iawn i fy lles.
Mae nifer o grwpiau Facebook hefyd sy’n ymwneud â chyflyrau penodol a allai fod yn ffynonellau cymorth defnyddiol.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Gweld persbectif trwy gysylltu â’r gorffennol

Well / Being

Mae gwnïo’n dod â heddwch a llawenydd i mi
