Dwi’n fam i fachgen 8 oed.
Pam mae gofalu am eich lles meddyliol yn bwysig i chi?
Mae’n fy helpu i deimlo’n ddigon da i wneud y pethau y mae angen i mi eu gwneud a’r pethau dwi’n mwynhau eu gwneud.
Beth ydych chi’n ei wneud i warchod a gwella eich lles meddyliol?
Yn ddiweddar, rydw wedi mwynhau dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab.
Mae’n rhywbeth na wnes i fyth ei wneud blentyn. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn rhy araf a chymhleth i fuddsoddi amser yn ei ddysgu. Ond daeth fy mab gartref o’r ysgol un diwrnod a dweud ei fod eisiau dechrau dysgu. Felly, cafodd set gwyddbwyll gan ei nain a’i daid ar ei ben-blwydd ac rydym wedi bod yn dysgu gyda’n gilydd!
Mae wedi bod yn ffordd braf o gysylltu ag ef (a rhoi seibiant iddo o’r gemau fideo!).
Dwi’n meddwl bod dechrau ar yr un lefel wedi’i wneud yn fwy o hwyl i’r ddau ohonom ni, a dwi wrth fy modd yn llwyddo i gael ‘checkmate’, er ei fod yn tueddu i fy nghuro fi yn amlach na pheidio!
Dwi’n hoffi meddwl ei fod yn beth da i les fy mab yn ogystal â’m lles fy hun, ac mae’n teimlo fel ein bod ni’n treulio amser gwerthfawr gyda’n gilydd.
Cofnodion eraill
Gweld popeth
Coginio a chreadigrwydd i godi fy ysbryd

Treulio amser yn yr awyr agored yn lle o flaen sgrin
