Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae’n debyg bod grŵp o bobl sy’n ymddiddori yn yr un pethau â chi. Chwilotwch ar-lein, rhannwch eich diddordebau gydag eraill, neu holwch yn eich llyfrgell leol – maen nhw’n lleoedd gwych i gael gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau yn y gymuned ac i ddysgu drwy ddarllen wrth gwrs!

Mae dysgu yn dechrau gyda bod yn chwilfrydig

Dysgwyr ydym ni i gyd, yn chwilfrydig am y byd o’n cwmpas. Chwilfrydedd wnaeth ein hannog i archwilio a chodi ar ddwy droed yn ystod y misoedd cyntaf ein bywyd. Mae bod yn chwilfrydig yn wych ar gyfer ein lles meddyliol, ond mae’n nodwedd sydd weithiau’n pylu wrth i ni fynd yn hŷn.

Gellir meithrin chwilfrydedd drwy ofyn cwestiynau neu roi cynnig ar bethau newydd a phan mae hynny’n digwydd, mae’n ein helpu i addasu, yn cefnogi lles meddyliol cadarnhaol a gall hyd yn oed helpu i amddiffyn ein cof wrth i ni heneiddio (dolen Saesneg yn unig).

Dysgu am y byd o’n cwmpas

Mae cymaint i ddysgu amdanynt, ac mae cyfleoedd o’n cwmpas ym mhob man – yn y byd digidol ac mewn realiti. Mae byd natur yn llawn cyfleoedd i ddysgu, o ddod i adnabod y creaduriaid sy’n byw o dan y ddaear, pryfed, planhigion a ffyngau, i edrych i fyny fry i ddysgu am yr adar neu’r sêr yn yr awyr nos.

Gallwn ddysgu am ein hanes lleol a theimlo’n fwy cysylltiedig â’n hardal leol neu ddysgu am ein teulu. Neu gallwn ddysgu sgiliau newydd, megis rhoi cynnig ar rysáit newydd neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynegi ein creadigrwydd.

Dysgu am y bobl o’n cwmpas

Mae dysgu hefyd yn gallu golygu darganfod mwy am y bobl o’n cwmpas. Gall bod yn chwilfrydig am brofiadau pobl eraill, eu meddyliau a’u teimladau ein helpu ni i gysylltu’n fwy ystyrlon a magu a chynnal perthnasoedd (dolen Saesneg yn unig).

Derbyn ysbrydoliaeth

Gweld popeth
Cacennau Cri

Coginio a chreadigrwydd i godi fy ysbryd

Renée
Llyfrau lliwio

Canfod llif drwy liwio

Emily
Board gwyddbwyll.

Dysgu chwarae gwyddbwyll gyda fy mab

Jackie

Archwilio’n fanylach

Learning

Offer ac adnoddau lles

Casgliad o adnoddau a syniadau i'ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at les meddyliol gwell.

Dysgu mwy

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.