Mae deall ein hemosiynau yn ein helpu i’w rheoli. Mae hyn yn ein helpu i feddwl yn gliriach am ein sefyllfa a’n gweithredoedd. Gall hefyd ein helpu i feithrin perthynas well ag eraill.
Pan fyddwn yn teimlo’n emosiynol gall fod yn anodd meddwl yn glir. Gall siarad am sut rydyn ni’n teimlo gyda rhywun rydyn ni’n ymddiried ynddo ein helpu ni i gysylltu ein meddyliau rhesymegol ac emosiynol. Mae’n rhoi’r cyfle i ni roi pethau mewn persbectif a gwneud synnwyr o sut rydyn ni’n teimlo. Wrth fyfyrio ar ein hemosiynau mae’n bwysig bod yn dosturiol i ni’n hunain. Mae’n arferol profi ystod eang o emosiynau.
Meithrin teimladau cadarnhaol
Gallwn dueddu i ganolbwyntio ar ddigwyddiadau neu deimladau negyddol. Os gwnawn ni ormod o hyn, gall effeithio ar ein lles meddyliol. Yn gyffredinol, mae cael eich dal mewn cylch o feddyliau negyddol yn o brif nodweddion o iselder a gorbryder.
Mae meithrin teimladau cadarnhaol yn helpu i’n hamddiffyn rhag syrthio i gylch o feddyliau negyddol. Gallwn wneud hyn drwy sylwi ar yr hyn yr ydym yn ddiolchgar amdano a neilltuo amser ar gyfer y pethau yr ydym yn eu mwynhau.
Ymarfer diolchgarwch
Caiff diolchgarwch ei gydnabod yn gynyddol nid yn unig fel teimlad ond gweithred y gallwn ei hymarfer i feithrin emosiynau cadarnhaol. Efallai y byddwn yn teimlo’n ddiolchgar am rywbeth mae rhywun wedi’i wneud i ni neu am bethau ym myd natur, fel arwyddion cyntaf y gwanwyn neu weld gloÿnnod byw yn dawnsio gyda’i gilydd. Gall sylwi ar yr hyn rydym yn ddiolchgar amdano ychydig o weithiau yr wythnos roi hwb i’n lles meddyliol. Mae cadw nodiadau mewn dyddiadur am bethau rydym yn ddiolchgar amdanynt yn rhoi rhywbeth i ni edrych yn ôl arno pan fydd angen hwb arnom.
Mae gallu sylwi ar ein teimladau a’u deall yn bwysig i’n helpu ni i hybu ac amddiffyn ein lles meddyliol. Mae deall ein hemosiynau yn ein helpu i’w rheoli. Mae hyn yn ein helpu i feddwl yn gliriach am ein sefyllfa a’n gweithredoedd. Gall hefyd ein helpu i feithrin perthynas well ag eraill.
Gwella perthnasoedd
Gall sylwi ar ein meddyliau a’n teimladau ein helpu i feithrin gwell perthynas ag eraill.
Mae bod yn garedig ac yn ystyriol o deimladau pobl eraill hefyd yn bwysig I gynnal perthnasoedd yn iach. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sut gall ein teimladau ddylanwadu ar ein hymddygiad a sut gall ein gweithredoedd effeithio ar emosiynau.
Mae’n bwysig cofio na allwn reoli sut mae pobl yn ymddwyn tuag atom ni, ond gallwn reoli sut rydyn ni’n ymateb.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth.
Mae cymorth ar gael os yw eich emosiynau’n cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.
Dysgu mwyDerbyn ysbrydoliaeth
Bodlon
Cysylltu â natur trwy fytholeg Cymru
Llawenydd i Dadau
Darllen a gwrando ar bodlediadau yn lle edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a’r newyddion
Archwilio’n fanylach
Offer ac adnoddau lles
Casgliad o adnoddau a syniadau i'ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at les meddyliol gwell.
Dysgu mwyTreftadaeth a hanes
Oeddech chi'n gwybod y gall cysylltu â threftadaeth, lleoedd hanesyddol a'r pethau sy'n rhan o'n diwylliant gefnogi ein lles meddyliol ni a bywyd yn ein cymunedau?
Dysgu mwyCreadigrwydd
Oeddech chi'n gwybod bod gwneud pethau creadigol a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn dda i'n lles meddyliol?
Dysgu mwyHobïau a diddordebau
Oeddech chi'n gwybod y gall treulio amser yn gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau helpu i dawelu'ch meddwl a’ch helpu i ganolbwyntio?
Dysgu mwyByd Natur
Oeddech chi'n gwybod bod treulio amser yn cysylltu â natur a sylwi ar bethau yn y byd naturiol o'n cwmpas yn dda i'n lles meddyliol?
Dysgu mwyPobl
Oeddech chi'n gwybod mai cysylltu ag eraill yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi ein lles meddyliol?
Dysgu mwyDysgu
Oeddech chi'n gwybod bod dysgu yn ffordd bwerus o gysylltu â syniadau, safbwyntiau a phobl newydd?
Dysgu mwyIechyd corfforol
Oeddech chi'n gwybod bod cysylltiad agos rhwng ein llesiant corfforol a’n lles meddyliol? Mae gofalu am ein hiechyd corfforol yn cefnogi ein lles meddyliol.
Dysgu mwy