Mae’r ffordd rydyn ni’n cydnabod ac yn delio â theimlo ein bod dan straen neu’n cael ein llethu hefyd yn effeithio ar ein lles corfforol a meddyliol.
Gall llawer o’r syniadau a’r gweithgareddau a rennir ar y wefan hon eich helpu i ymlacio a rheoli ymateb eich corff i straen.
Bod yn actif yn gorfforol
Gall bod yn egnïol helpu i roi hwb i’n lles meddyliol. Mae’n rhyddhau hormonau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda, neu endorffinau, sy’n rhoi ymdeimlad o wobr neu bleser i ni. Mae bod yn egnïol yn ein helpu i reoleiddio prosesau seicolegol (fel meddyliau a theimladau) a swyddogaethau biolegol (fel curiad y galon a threuliad), gan ganiatáu i ni deimlo’n dda a gweithredu’n dda – y tu mewn a’r tu allan!
Bod yn actif gyda eraill
Gall bod yn egnïol gydag eraill, megis taith gerdded grŵp neu chwaraeon tîm, ddod â’r fantais ychwanegol o gymdeithasu a chysylltu ag eraill. Mae treulio amser yn yr awyr agored hefyd yn wych ar gyfer ein lles meddyliol.
Bwyta’n dda a chynnal pwysau iach
Gan fod costau byw yn cynyddu, gall gofalu am ein hiechyd corfforol a chynnal deiet iach teimlo’n heriol. Gall rheoli ein pwysau fod yn heriol hefyd. Mae ein berthynas rhwng bwyd ac ymarfer corff yn wahanol i bawb. Ond mae yna offer ar gael a all helpu.
Mae ymchwil yn dangos bod bwyta deiet Mediteranaidd (llawn ffrwythau, llysiau a grawn cyflawn) yn wych i’n hiechyd meddwl a’n hiechyd corfforol.
Mae rhoi’r gorau i smygu yn gwella lles meddyliol
Mae rhoi’r gorau i smygu yn ffordd wych o wella ein hiechyd a’n lles. Mae ymchwil yn awgrymu y gall fod mor effeithiol â chymryd meddyginiaeth o ran lleihau teimladau o iselder a phryder. Dyw hi ddim yn hawdd rhoi’r gorau i ysmygu, ac rydyn ni’n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os cawn gefnogaeth.
Dechreuwch eich taith ddi-fwg gyda mynediad at gymorth arbenigol am ddim y GIG gan Helpa Fi i Stopio.
Cysgu’n dda
Mae cwsg da yn bwysig i’n lles meddyliol. Pan fyddwn ni wedi gorffwys yn dda, gallwn feddwl yn gliriach ac rydyn ni’n gallu rheoli ein hemosiynau yn well. Mae hefyd yn dda i’n cof ac yn helpu i leihau lefelau hormonau straen.
Mae cael trefn cysgu reolaidd amser gwely, fel mynd i’r gwely a deffro yr un pryd bob dydd, yn helpu i reoli cloc mewnol y corff.
Gall technegau ymlacio fel ymarferion anadlu dwfn neu ymwybyddiaeth ofalgar cyn mynd i’r gwely helpu i dawelu’ch meddwl cyn cysgu. Gall nodi ein meddyliau ar bapur neu wneud ‘rhestr o bethau i’w gwneud’ cyn mynd i’r gwely hefyd helpu i atal y meddwl rhag crwydro wrth i ni geisio mynd i gysgu.
Derbyn ysbrydoliaeth
Defnyddio’r ap ‘Active 10’ i gysylltu â byd natur
Dydw i byth yn difaru mynd allan unwaith y dydd
Rhoi blaenoriaeth i ‘amser i mi’ a bod yn garedig â mi fy hun
Mae nofio yn fy helpu i ymlacio a bod yn ystyriol
Archwilio’n fanylach
Offer ac adnoddau lles
Casgliad o adnoddau a syniadau i'ch ysbrydoli i gymryd y cam cyntaf tuag at les meddyliol gwell.
Dysgu mwyEin meddyliau a’n teimladau
Oeddech chi'n gwybod bod eich meddyliau a'ch teimladau yn gallu dylanwadu ar sut rydyn ni'n ymddwyn? Maen nwh'n gallu llywio ein hymddygiad a dylanwadu ar ein hymdeimlad cyffredinol o les meddyliol.
Dysgu mwyTreftadaeth a hanes
Oeddech chi'n gwybod y gall cysylltu â threftadaeth, lleoedd hanesyddol a'r pethau sy'n rhan o'n diwylliant gefnogi ein lles meddyliol ni a bywyd yn ein cymunedau?
Dysgu mwyCreadigrwydd
Oeddech chi'n gwybod bod gwneud pethau creadigol a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn dda i'n lles meddyliol?
Dysgu mwyHobïau a diddordebau
Oeddech chi'n gwybod y gall treulio amser yn gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau helpu i dawelu'ch meddwl a’ch helpu i ganolbwyntio?
Dysgu mwyByd Natur
Oeddech chi'n gwybod bod treulio amser yn cysylltu â natur a sylwi ar bethau yn y byd naturiol o'n cwmpas yn dda i'n lles meddyliol?
Dysgu mwyPobl
Oeddech chi'n gwybod mai cysylltu ag eraill yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i gefnogi ein lles meddyliol?
Dysgu mwyDysgu
Oeddech chi'n gwybod bod dysgu yn ffordd bwerus o gysylltu â syniadau, safbwyntiau a phobl newydd?
Dysgu mwy