Archwilio mwy

Erthyglau Hapus
Erthyglau sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan ein harbenigwyr a’n partneriaid am yr hyn sy’n fuddiol i’n lles meddyliol.
Dysgu mwy
Offer lles
Archwiliwch ddetholiad o offer, adnoddau a chyfleoedd i helpu rhoi hwb i’ch lles meddwl.
Dysgu mwyLlesiant ar Waith: Ymarfer Cymunedau Cynhwysol
Ydych chi’n datblygu neu’n cyflwyno gweithgareddau i’r gymuned? Bydd ymgorffori’r camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth a amlinellir yma yn helpu i greu gweithgareddau cynhwysol a sicrhau’r buddion mwyaf posibl i lesiant unigolion a llesiant cymunedol.
Mae’r camau gweithredu’n berthnasol i’r gweithgareddau, y gwasanaethau neu’r ymyriadau y mae’r sectorau cyhoeddus, preifat, elusennol, cymunedol a gwirfoddol yn eu darparu.
Mae gweithgaredd a drefnir yn y gymuned yn galluogi datblygu rhwydweithiau cymdeithasol cefnogol sy’n cael effaith gadarnhaol ar lesiant unigol a chyfunol.
Yn aml, mae’r math hwn o weithgaredd yn dod â buddion ar draws nifer o ganlyniadau, sy’n cynnwys gwell iechyd, llesiant meddyliol, amgylcheddau naturiol, economïau lleol a chydlyniant cymdeithasol.
Dysgu mwy