Mae treulio amser yn ymgysylltu â natur yn wych ar gyfer ein llesiant meddyliol.
Gall treulio amser ym myd natur leihau straen a gorbryder, codi ein hwyliau a helpu ein meddyliau i orffwys. Mae WWF Cymru yn gweithio tuag at adeiladu Cymru sy’n gyfoethog o ran cynefinoedd a rhywogaethau i bobl allu mwynhau natur.
Mae WWF Cymru wedi datblygu rhaglen bresgripsiynu natur sy’n argymell ein bod, lle bo modd, yn treulio 20 munud y dydd yn ymgymryd â gweithgarwch sy’n seiliedig ar natur. Gallai hyn olygu treulio amser yn yr ardd neu’r parc, gwrando ar natur ar daith gerdded, gweld pryfed neu ofalu am eich planhigion tŷ. Mae rhywbeth at ddant pawb.

WWF Cymru
Mae’r manteision o ymgysylltu â natur yn rhai cyffredinol a gallant chwarae rhan amlwg wrth gefnogi llesiant meddyliol plant a phobl ifanc. Gall ysgolion gofrestru i dderbyn pecyn posteri. Get your daily dose of nature at school | WWF (gwefan allanol, Saesneg yn unig) drwy wefan WWF Cymru.
Mae’r wefan hefyd yn cynnig awgrymiadau gwych i bobl sy’n gweithio, ac yn eich helpu i deimlo’n agosach at natur a gofalu am eich llesiant pan fyddwch yn y gwaith. Gallwch hefyd lawrlwytho neu archebu pecyn natur am ddim (papur neu ddigidol) Choose your Daily Dose Pack | Cymorth WWF gwefan allanol, Saesneg yn unig).
Mae WWF Cymru yn cefnogi presgripsiynu natur drwy elusen iechyd meddwl o’r enw Dose of Nature. Mae’r elusen yn darparu rhaglen wyth wythnos y mae’n ei galw’n Dose of Nature Prescription (gwefan allanol, Saesneg yn unig) i helpu pobl i ddarganfod sut y gall treulio amser ym myd natur wella iechyd meddwl. Mae’n annog gwneud newidiadau parhaol i ffordd o fyw trwy ddysgu, profiadau ymarferol, a chefnogaeth gan dywysydd hyfforddedig.
Gan fod natur cystal am ein helpu i deimlo’n dda, anogir pawb i gael eu dos dyddiol drwy dreulio 20 munud ym myd natur.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Pob Plentyn Cymru – Gwybodaeth i rieni
Beth bynnag oedd eich taith tuag at fod yn rhiant, os ydych yn ddiweddar wedi dod yn riant newydd, mae'r llyfrynnau hyn ar eich cyfer chi.

Rheoli gorbryder ac ofn
Gall canllaw’r Sefydliad Iechyd Meddwl eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddeall a rheoli teimladau o orbryder ac ofn.

Seinweddau i hyrwyddo lles
Casgliad o seinweddau natur a cherddoriaeth gan y BBC.