Ydych chi’n chwilio am ffyrdd o gysylltu â natur o’ch cartref?
Mae natur yn cynnig nifer o fanteision i’n lles meddyliol. Mae cysylltu â natur drwy ein synhwyrau, megis gwrando ar synau’r byd naturiol, yn ffordd wych o fanteisio ar effeithiau llonyddol byd natur.
Yn ôl gwaith ymchwil, nid o reidrwydd faint o amser rydym yn ei dreulio ym myd natur sy’n dylanwadu ar ein lles ond, yn hytrach, i ba raddau rydym yn cysylltu â natur drwy ein synhwyrau a’n hemosiynau. Gall hyd yn oed ychydig eiliadau’n cysylltu â byd natur yn y ffordd hon roi hwb i’n lles meddyliol.
Mae’r seinweddau hyn yn ffordd o gael mynediad i fanteision y byd naturiol pan na allwn fod yn yr awyr agored.
Porwch drwy’r casgliad i weld beth sy’n eich helpu i deimlo’n dda.
Mae rhai o’r seinweddau yn uno cerddoriaeth a natur, gan gyflwyno manteision ychwanegol i’n lles sy’n gysylltiedig â gwrando ar gerddoriaeth. Gall cerddoriaeth ein helpu i reoli ein hemosiynau a gwneud i ni deimlo’n llai digalon a phryderus.
O’r wefan Soundscapes for Wellbeing gallwch hefyd gael mynediad i wefan BBC Sound Effects Soundscapes ble y gallwch wrando ar filoedd o recordiadau a chreu eich seinweddau eich hun.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Hyfforddiant Sgyrsiau mewn Cymunedau
Ydych chi eisiau bod yno i rywun sy'n cael amser anodd, ond sy'n poeni am beth i'w ddweud? Gall y cwrs ar-lein byr hwn helpu.
Gwaith Arwr – Sut i ddod â gemau i mewn i’ch bywyd
Trawsnewid eich trefn gweithio bob dydd yn gyfres o dasgau a fydd yn caniatáu i chi ennill pwyntiau profiad a symud o un lefel i’r nesaf.
Bod yn Greadigol wrth Fynd â’r Ci am Dro
Ydych chi'n chwilio am ychydig funudau o lonyddwch wrth i chi gymryd seibiant yn eich diwrnod gwaith prysur? Wel, ymunwch â fi wrth fynd â’r ci am dro yng nghefn gwlad Caerdydd.