Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Gyda ffrindiau a theulu yn gweithio yn sector y GIG a Gofal Cymdeithasol, rwy’n deall pa mor brin y gall gorffwys fod.
Yn aml, daw’r egwyl i stop yn sydyn. Cegaid fan hyn a fan draw yw cinio, cwpanaid o de yn oeri.
Mae’r gyfres hon o ymarferion byr yn eich annog i adeiladu cerdd fyfyriol bersonol am le sy’n dod â heddwch i chi. Yn bersonol, mae barddoniaeth yn fy helpu i wneud synnwyr o’r byd ac yn dod ag eiliadau o eglurder pan fydd fy meddwl yn stormus.
Mae cyfuno ymwybyddiaeth ofalgar, barddoniaeth ac atgofion cysurus yn arf pwerus rwy’n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i eiliadau o arafu tra yn y gwaith.
Fideos bach byrion yw’r ymarferion, felly gallwch eu gwylio yn ystod eich egwyl heb gymryd gormod o’ch amser sbâr.
Rwy’n gredwr mawr mewn barddoniaeth i bawb a gobeithio y bydd yr ymarferion a’r enghreifftiau barddonol hyn yn ddefnyddiol i chi wrth greu eich cerdd bersonol eich hun.
Hanan Issa
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.

Cyflwyniad i Fît-bocsio
Camwch allan o'r hyn rydych chi wedi arfer ei wneud a dysgu hanfodion bît-bocsio gyda Dean Yhnell.

Hunanbortread
Gwyliwch wrth i’r artist Nathan Wyburn greu hunanbortread mawr allan o becynnu presgripsiwn gwag.