Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Rydw i’n awdur, yn fardd ac yn ddramodydd o Gymru ond cefais fy ngeni yn Cameroon. Rydw i’n credu ym mhŵer adrodd straeon a’i allu i’n cludo i wahanol lefydd a phrofiadau.
Rydw i weid adrodd straeon drwy gydol fy oes, cyhyd ag y gallaf gofio. Roedd gan fy nhaid dair gwraig. Ar y ffordd adref o’r ysgol, byddwn yn stopio yn ei gartref ac yn mynd i gegin ei wraig gyntaf. Byddwn yn adrodd straeon ac yn diddanu ei phlant wrth iddi goginio. Byddai’n rhoi platiad mawr o fwyd i mi.
Yna byddwn yn ymweld â’r ail wraig ac yn gwneud yr un fath. Ar ôl cyrraedd tŷ fy mam, doedd dim ots os nad oedd unrhyw fwyd ar gael.
Y cyfan rydw i wedi’i wneud ers byw yma yng Nghymru yw adrodd straeon. Rydw i wedi cyrraedd yr oedran lle mae’n rhaid i mi ddechrau rhoi’r awenau i’r genhedlaeth nesaf o storïwyr. Felly, fe wnes i gydweithio gyda Caoimhe Lewis ar y prosiect hwn.
O ble daw straeon? I ateb y cwestiwn hwn, fe wnaethom gyfeirio at lyfr chwedlau Cymreig Steven Peterson. Ers y cyfnod cynharaf, mae straeon wedi’u hadrodd mewn ceginau, wrth y tân, o dan y lloer, lar lan yr afon, aa ati.
Wrth i ni ffilmio, fe wnaethom groesi dŵr llwyd yr afon Taf, wrth i Caoimhe ganu cân y cranc. Roedd yn llawer o hwyl.
Rydw i a Caoimhe yn eich annog i wrando ar y straeon hyn, i chwerthin ac i ailymweld ag atgofion eich plentyndod. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich straeon chi.
Ar adeg pan mae’n ymddangos bod y byd ar ei gliniau, gadewch i ni fynd nôl at y pethau syml a dod at ein gilydd, i wrando ac i ddweud straeon wrth ein gilydd.
Gadewch i’n dychymyg lifo a’n creadigrwydd yw’r gobaith sy’n goleuo ein byd, gan barhau â’r cysylltiad hwnnw rhwng y Celfyddydau, Creadigrwydd a’n lles meddyliol. Diolch yn fawr iawn.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Stiwdio Syniadau
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu.
Carwch eich hunan unigryw
Rhowch gynnig ar greu eich dyluniad Llwy Garu eich hun sy'n dathlu pwy ydych chi a beth sy'n eich gwneud chi'n arbennig.
Symud Drwy Lawenydd
Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.