Mae hanes hir o wneud Llwyau Caru yng Nghymru. Byddai pob llwy unigryw wedi cael ei siapio gyda gofal mawr a’i roi fel arwydd o gariad ac anwyldeb.
Ymunwch â’r artist Nia Wyn Skyrme i greu eich Llwy Garu eich hun, i chi’ch hun!
Bydd y gweithgaredd yn eich helpu i nodi eich meddyliau a’ch teimlad amdanoch chi’ch hun. Mae hwn yn gam pwysig tuag at fod yn garedig a thosturiol tuag at ein hunain a derbyn pwy ydym ni.
Dechreuwch drwy ddarlunio
Brasluniwch eich amlinelliad o lwy garu ar ddarn o bapur. Gallwch gael ysbrydoliaeth o casgliad Amgueddfa Cymru o Lwyau Caru. Meddyliwch am symbolau a phatrymau sy’n eich cynrychioli chi a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n arbennig.
Byddwch yn greadigol gyda gludwaith
Ychwanegwch wead a lliw at eich dyluniad gan ddefnyddio deunyddiau gludwaith. Torrwch allan a glynwch siapiau, delweddau, neu eiriau yr ydych yn uniaethu â nhw ar eich Llwy Garu.
Dathlwch eich hunan unigryw
Wrth i chi weithio, myfyriwch ar yr hyn sy’n bwysig i chi, beth sy’n unigryw amdanoch chi. Meddyliwch am agweddau ar eich hunaniaeth, diwylliant a phrofiadau sy’n siapio pwy ydych chi. Gadewch i’r rhain ysbrydoli eich dyluniad Llwy Garu unigryw.
Byddwch yn falch
Ysgrifennwch un peth positif amdanoch eich hun drws nesaf i’ch Llwy Garu – “Rwy’n…”
Beth am ei arddangos ar eich wal neu’ch oergell i’ch atgoffa am eich creadigrwydd a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n unigryw!
Yr offer sydd ei angen
- Papur
- Pensil
- Pensiliau neu binnau lliwio
- Deunyddiau gludwaith
Gwyliwch Nia Wyn Skyrme yn siarad am fanteision rhoi rhwydd hynt i’ch creadigrwydd, a gweld y gweithdy Llwyau Caru ar waith.
Darganfyddwch fwy am hanes Llwyau Caru yng Nghymru a’u hystyr.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.
Camwch i fyd adrodd straeon
Dysgu sut i fynd ati i ysgrifennu stori gyda fideo 15 munud o hyd gan yr awdur Jack Llewelyn.
Edau i’r enaid
Cwblhewch brosiect tecstilau cyflym a hawdd gyda'r fideos hyn gan yr artist Haf Weighton.