Os ydych chi’n awyddus i ddangos eich ochr greadigol a chysylltu â threftadaeth Cymru, mae gan Cadw syniadau ysbrydoledig i’ch rhoi ar ben ffordd…
Gallwch adeiladu eich theatr ganoloesol eich hun drwy ddilyn y fideos ar-lein. Mae pob fideo’n cyfleu pennod newydd yn hanes y clerigwr gwych o Gymru, Gerallt Gymro; gallwch lawrlwytho comics a thaflenni lliwio a dysgu am yr arwresau Cymreig, Gwenllian a Branwen ferch Llŷr yn ein comics am ddim, a ddyluniwyd gan Pete Fowler, sef arlunydd Super Furry Animals.
Gallwch ddysgu am harddwch celf tapestri, ac edrych ar ffyrdd o adrodd eich stori eich hun drwy gyfrwng collage, ffotomontage neu hyd yn oed strip comic. Mae’r gweithgareddau yn heriol ac yn addas i blant o bob oedran a gallu.
Felly gafaelwch yn eich peniau, pensiliau a’ch brwshys paent …mae’n bryd i chi ddechrau creu!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.
Llygedyn o oleuni: Sylwi, Creu, Cysylltu
Darganfyddwch sut y gall sylwi ar “lygedyn o oleuni” synhwyraidd bach helpu i feithrin tawelwch, creadigrwydd ac ymgysylltu ym mywyd bob dydd.
Papur a beiro
Yn y tair fideo dw i'n eich gwahodd i ymuno efo fi ac ysgrifennu ychydig eich hun.