Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Daw’r Cyflwyniad i Gyfres Horton â llawenydd a bywiogrwydd wrth i chi ddechrau ar y siwrnai hon o symud.
Fy enw i yw Marcus Jarrell Willis ac rwy’n goreograffydd ac artist dawns o Gymru. Rydw i hefyd yn Goreograffydd Preswyl Ballet Cymru, Casnewydd.
Mae’r fideo dwy ran yn archwilio ymarferion sy’n seiliedig ar y dechneg ddawns fodern a grëwyd gan Lester Horton. Fel cyn ddawnsiwr gydag Alvin Ailey American Dance Theater (Efrog Newydd), roedd y Dechneg Horton yn rhan hanfodol o fy natblygiad yn y sector dawns yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Mae’r dechneg Horton yn apelio at bawb, os oes gennych gefndir sylweddol mewn hyfforddi dawns neu os nad ydych chi erioed wedi cymryd rhan mewn dawns o’r blaen. Mae’r ymarferion hyn yn adeiladu cryfder, cydsymud, yn cynyddu ystwythder ac yn cynnig posau symud a all adeiladu cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff.
Dywedodd y diweddar Alvin Ailey, ‘Mae dawns ar gyfer pawb. Rwy’n credu mai oddi wrth y bobl y daeth y ddawns ac y dylid ei rhoi yn ôl i’r bobl bob amser’.
Gobeithio y daw Cyflwyniad i Gyfres Horton â llawenydd a bywiogrwydd i chi, wrth i chi gychwyn ar y siwrnai hon o symud.
Pob hwyl gyda’r dawnsio!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bittersweet Herbal
Darllenwch neu wrando ar y cerddi sydd wedi'u hysgrifennu gan y bardd Gwyneth Lewis fel 'geiriau i wella straen a chyflyrau cronig'.

Papur a beiro
Yn y tair fideo dw i'n eich gwahodd i ymuno efo fi ac ysgrifennu ychydig eich hun.

Gwaith Arwr – Sut i ddod â gemau i mewn i’ch bywyd
Transform your everyday work routine into a series of quests that earn you experience points and let you rise through different levels.