Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Creu celf gyda’ch llygaid ar gau!
Peintiwr ydw i, yn arbenigo mewn portreadau o ferched, ond rydw i hefyd wrth fy modd yn tynnu lluniau, creu collage, printio a chwarae gyda chlai.
Yn y 3 fideo, rydw i wedi dewis rhai o fy hoff weithgareddau er mwyn cael gwared ar straen ac i gysylltu nôl i’r canol.
Yr un cyntaf yw ‘Gwneud celf haniaethol yn hawdd – creu celf gyda’ch llygaid ar gau!’
Mae’n fater o fod yn gyfforddus, efallai gyda’ch hoff ddarn o gerddoriaeth, i gau eich llygaid a gadael i’ch llaw grwydro dros y dudalen gyda phensil. Ry’ch chi’n gadael i unrhyw siapiau ddod i’r amlwg ac yn stopio pan fydd yn teimlo’n iawn.
Cymerwch ychydig o liwiau a dechreuwch ychwanegu rhywfaint o liw at eich siapiau – gan addasu fel y dymunwch.
Yr ail yw papier mache. Mae’r dechneg hon yn eich helpu i gysylltu nôl i amser haws, plentyndod, pan oedd bywyd yn symlach. Ydych chi’n cofio’r teimlad gludiog hwnnw o fwydion papur newydd mewn past papur wal? Gallwn wneud papier mache fel oedolion hefyd.
Y cyfan sydd ei angen yw papur newydd, glud PVA gwyn, rhai gwrthrychau i’w defnyddio fel mowldiau a cling ffilm – i atal y mowld rhag glynu wrth y papier mache.
Yr hyn sy’n dda am y dechneg hon yw y gallwch wneud bron unrhyw beth, ac unwaith y bydd wedi’i baentio bydd neb byth yn gwybod mai papier mache syml yw e.
Mae’n wych ar gyfer lles gan eich bod yn ei wneud gam wrth gam ac yn gweld eich gwaith celf yn datblygu.
Mae’r trydydd fideo yn ymwneud â chwarae â chlai. Yn y fideo, rwy’n dangos i chi sut i wneud ‘pot pinsio’ a does dim angen unrhyw offer – dim ond mowldio a siapio gyda’ch dwylo. Gobeithio y bydd hyn yn eich ysbrydoli i greu gwrthrychau eraill. Mae clai sy’n sychu yn yr aer ar gael yn y rhan fwyaf o siopau crefft ac yn rhad iawn – felly rhowch gynnig arni.
Ochr yn ochr â fy ngwaith yn y stiwdio, rwy’n gweithio mewn ysgolion ac yn y gymuned. Rydw i wrth fy modd yn gweithio gyda phlant a’u cefnogi i greu celf.
Ar hyn o bryd, mae fy ngwaith yn ymwneud â chreu portreadau o ferched. Ar fy meddwl ar hyn o bryd mae absenoldeb merched o liw ar waliau orielau, mewn llyfrau celf, mewn llyfrau plant, mewn hanes… hoffwn fynd i’r afael â hyn yn fy ngwaith.
Prith Biant
Artist Gweledol
Lawrlwythwch yr adnodd ar gyfer Abstract Art Made Easy (PDF).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cyflwyniad i Gyfres Horton
Mae’r fideos hyn, a grëwyd gan goreograffydd preswyl Ballet Cymru, yn archwilio ymarferion yn seiliedig ar dechneg ddawns fodern Lester Horton.

Pob Plentyn Cymru – Gwybodaeth i rieni
Beth bynnag oedd eich taith tuag at fod yn rhiant, os ydych yn ddiweddar wedi dod yn riant newydd, mae'r llyfrynnau hyn ar eich cyfer chi.

Straeon Doniol
Learn how to start telling a story with these tips, tricks, games and ideas for you to try out on your own.