Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Eiliadau o Hwyl a Rhyfeddod

Rhowch gynnig ar y tri phrosiect celf/crefft hwyliog a rhad hyn, sy'n cynnwys llun 3D syml a map plygu Twrcaidd.

Wedi’i rhannu yn: Byddwch yn greadigolHobïau a diddordebau
Llun llonydd wedi’I gymryd o ‘Moments of fun and wonder’ yn dangos Emma Jones yn gwenu ac yn dal prosiect celf mae hi wedi cwblhau
Wedi’i rhannu yn: Byddwch yn greadigolHobïau a diddordebau

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Moments of Fun and Wonder (dolen Saesneg yn unig)

Cofiwch gael hwyl a mwynhau’r broses yn lle canolbwyntio ar y canlyniad.

Helo, Emma Jones ydw i.

Rwy’n artist o Fro Morgannwg ac rwy’n angerddol am gelf a’r effaith mae’n gallu ei chael ar ein lles. Gan fod celf yn lleihau lefelau cortisol, ni ddylem ystyried treulio amser yn gwneud tasgau creadigol fel rhywbeth moethus, ond yn rhywbeth y dylem  ei gynnwys yn ein bywydau bob dydd.

Dyma pam rydw i wedi dewis y 3 celf/crefft i chi roi cynnig arnyn nhw:

a) Dydyn nhw ddim yn cymryd gormod o amser

b) maen nhw’n rhad

c) maen nhw’n sgiliau sy’n gallu cael eu trosglwyddo’n hawdd ac mae hynny’n hyfryd.

Maen nhw i gyd hefyd yn cynnwys yr eiliad diniwed hwnnw o ryfeddod pan maen nhw’n dod yn fwy / yn datgelu’r elfen euraidd fewnol / yn mynd o un siâp i’r llall. Neu efallai mai dim ond fi sy’n credu hynny!

Y peth pwysicaf yw cael hwyl a mwynhau’r broses yn hytrach na chanolbwyntio ar y canlyniad.

Gobeithio y byddwch chi’n rhoi cynnig ar un ohonyn whw neu’r tri ac yn pasio eich sgiliau newydd ymlaen.

Mwynhewch.

Emma Jones

Llun 3D syml

Offer angenrheidiol:

  • Cerdyn
  • Siswrn
  • Unrhyw ddeynydd celf
  • Glud

Lawrlwytho canllaw sut i wneud rhywbeth sy’n popio.

How to make a very simple 'pop-up' (dolen Saesneg yn unig)

Celf â thiwb past tomato

Offer angenrheidiol:

  • Tiwb past tomato gwag
  • Siswrn
  • Hen feiro
  • Llwy

Lawrlwytho canllaw sut i wneud celf o diwb past tomato.

How to make tomato puree tube art (dolen Saesneg yn unig)

Amgueddfa o’ch Bywyd

Offer angenrheidiol

  • Papur (sgwâr)
  • Siswrn
  • Pensal, beiro

Lawrlwytho canllaw ar sut i wneud Amgueddfa o’ch Bywyd.

How to make a Turkish folding map 'Museum of Me' (dolen Saesneg yn unig)

Adnoddau gan Emma Jones, Tracy Pallant ac Amy Peckham.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.