Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo, Karen ydw i, a dwi’n artist tecstilau sy’n gweithio ar ffin ddwyreiniol Caerdydd, lle mae’r ddinas yn cwrdd â gwastadeddau Gwent.
Cefais fy ngeni i greu! Cefais fy ysbrydoli gan fy rhieni i fod yn greadigol ac i drwsio pethau. Rydw i wedi bod yn creu crefftau a phwytho cyhyd ag y gallaf gofio.
Ochr yn ochr â gyrfa broffesiynol, rydw i wedi astudio nifer o ddisgyblaethau creadigol ac rydw i wedi cymhwyso fel athrawes er mwyn gallu ysbrydoli eraill.
Dwi’n angerddol am werth creadigrwydd wrth hyrwyddo lles. P’un a ydym ar ein pen ein hunain neu yng nghwmni pobl eraill, wrth i’n dwylo weithio’n brysur a’n meddyliau ganolbwyntio ar fwynhau creu rhywbeth hardd/defnyddiol, rydym yn ymgolli’n llwyr ac yn ymlacio.
Braslunio wrth gerdded
Bydd y fideo hwn yn eich cyflwyno i’r syniad o fraslunio wrth gerdded. O greu llyfr braslunio sy’n costio nesa peth i ddim, bydd yn dangos i chi sut i’w ddefnyddio i gasglu atgofion wrth fynd am dro.
Bydd y llyfr llawn cymeriad yn cael ei greu o bost a phecynnau diangen, a gallwch ei roi yn eich poced neu yn eich bag ynghyd ag ambell feiro, pensiliau neu baent er mwyn gallu stopio, edrych yn ofalus ar bethau a’u cofnodi.
Gall eich brasluniau cyflym o’r pethau sy’n dal eich llygad – dail, cerrig mân, blodau, pen hedyn, lliwiau, gweadau, siapiau, neu batrymau – fod yn atgof, neu gellir eu defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith creadigol arall.
Lawrlwytho’r pecyn sut i sgets-gerdded (dolen Saesneg yn unig)
Tecstilau celf
Mae’r ail fideo yn eich cyflwyno i decstilau celf drwy ddangos i chi sut i ddefnyddio nodwydd ac edau a darnau o ddefnydd i drawsnewid eich llun yn waith celf tecstilau bach.
Bydd yn dangos i chi sut i roi eich cynllun ar ddefnydd, defnyddio cylch brodwaith, hollti edafedd, rhoi edau trwy nodwydd, clymu cwlwm a chreu ambell bwyth brodwaith.
Mae’r broses, yn enwedig wrth ddefnyddio’ch cynllun eich hun, yn faddeugar ac mae’n rhoi’r rhyddid i chi. Efallai y byddwch chi eisiau dysgu mwy o bwythau a thechnegau fel appliqué neu frodwaith peiriant i’ch galluogi i fynd i’r afael â phrosiectau tecstilau celf mwy anturus.
Lawrlwytho’r canllaw gwybodaeth am decstilau celf. (dolen Saesneg yn unig)
Gwybodaeth am Karen O’Shea
Fel myfyriwr hŷn, graddiais mewn Celf a Chrefft a chael Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig. Rydw i bellach yn dysgu tecstilau celf, gwaith pwytho ac amrywiaeth eang o grefftau cyfryngau cymysg i bobl o bob oed a gallu. Rydw i’n ceisio gweithio mor gynaliadwy â phosib, ac rydw i wrth fy modd yn cysylltu â byd natur drwy fy ngwaith.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy, dilynwch fi ar y cyfryngau cymdeithasol (karenosheaart) neu ewch i’m gwefan (dolen Saesneg yn unig)i gael manylion am ddosbarthiadau a gweithdai.
Yn y cyfamser, mwynhewch fraslunio wrth gerdded a’r cyflwyniad i decstilau celf!
Adnoddau wedi’u darparu gan Karen O’Shea a Sam Walton (dolen Saesneg yn unig).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethRhowch y gorau i ysmygu am byth a theimlo’r gwahaniaeth yn feddyliol ac yn gorfforol
Dechreuwch eich taith ddi-fwg gyda mynediad at gymorth arbenigol am ddim y GIG gan Helpa Fi i Stopio
Pob Plentyn Cymru – Gwybodaeth i rieni
Beth bynnag oedd eich taith tuag at fod yn rhiant, os ydych yn ddiweddar wedi dod yn riant newydd, mae'r llyfrynnau hyn ar eich cyfer chi.
Celf, Crefftau a Chreadigrwydd Cadw
Ymchwiliwch i’r amrywiaeth o weithgareddau megis templedi lliwio cestyll, cymeriadau canoloesol a mwy.