Mae awgrymiadau gorau’r Sefydliad Iechyd Meddwl ar gyfer iechyd meddwl wedi’u creu i’n helpu ni i ofalu am ein hiechyd meddwl ac, yn bwysig iawn, mae pob un wedi’i ategu gan dystiolaeth ymchwil, gan gynnwys astudiaeth arloesol y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Mae diogelu ein hiechyd meddwl yn haws nag ydych chi’n ei feddwl. Gall pob un ohonm wneud hyn bob dydd a, thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau syml sy’n ein helpu i deimlo’n iawn, gallwn ymdopi’n well â bywyd.
Mewn ffordd, mae’n debyg i frwsio eich dannedd bob dydd – mae’n bwysig er mwyn atal problemau rhag datblygu. Mae’r un peth yn wir ar gyfer ein hiechyd meddwl. Mae’n gallu bod yn hwyl hefyd!
Gall rhoi cynnig ar bethau newydd deimlo’n anghyfforddus weithiau, ond fel arfer maen nhw’n dod yn haws wrth eu hymarfer.
Rhaid cofio un peth: ndoes neb yn berffaith. Mae gan bob un ohonom ein terfynau. Mae’r hyn sy’n ddigon da i chi yn wych.
Bydd yr awgrymiadau hyn yn haws i rai ac yn anoddach i rai eraill, ac nid yw’r un sefyllfa yn addas i bawb. Beth am roi cynnig arnyn nhw a gweld pa rai sydd fwyaf addas i chi?
Lawrlwythwch y canllaw ‘Ein Hawgrymiaddau Gorau Ar Gyfer Iechyd Meddwl’
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Newyddion a’r Wybodaeth Ddiweddaraf am Cadw
Newyddion cyffredinol a’r wybodaeth ddiweddaraf am safleoedd Cadw.

Ar eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoleg yng Nghymru
Dysgwch am amgylchedd naturiol a hanesyddol Cymru gydag adnoddau gan Amgueddfa Cymru.

Cynllun Bancio Amser Cadw
Mynediad am ddim i wirfoddolwyr Bancio Amser at safleoedd Cadw mewn partneriaeth â Tempo Time Credits.