Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Gall dyddiaduron comic fod beth bynnag ry’ch chi eisiau iddo fod!
Helo! Josh ydw i. Rwy’n gartwnydd ac yn wneuthurwr ffilmiau o Gaerdydd. Rydw i wedi bod yn creu comics ers wyth mlynedd, a rydw i wedi creu cyfres o fideos i’ch tywys drwy’r broses o greu eich dyddiadur comic eich hun.
Mae dyddiaduron comic yn gomics byr, hunangofiannol am ddigwyddiad ym mywyd y crëwr. Gallan nhw fod beth bynnag yr hoffech iddyn nhw fod – doniol, trist, rhyfedd, difrifol – ac maen nhw’n ffordd wych o fynegi eich hun, prosesu digwyddiadau a rhoi eich meddyliau ar y dudalen ar ffurf weledol.
Y cyfan sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y gweithgaredd hwn yw pensil, beiro, pren mesur, rhwbiwr a phapur, felly mae’n hawdd iawn cymryd rhan. Ac mae’n hwyl! Gobeithio y gwnewch chi fwynhau gwneud eich dyddiadur comic eich hun – efallai y daw’n rhywbeth rheolaidd.
Adnodd: Islwytho: Taflen Gymorth A Thempled (PDF).
Offer Angenrheidiol
- Pensil
- Pen
- Pren Mesur
- Dilëwr
- Papur
Saethwyd y fideos gan Tree Top Films (Linc Saesneg yn unig).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bwydo eich creadigrwydd
Mae'r fideos hyn gan yr artist a'r awdur Sadia Pineda Hameed yn defnyddio ryseitiau ac atgofion am fwyd fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ac ysgrifennu creadigol.

Sgwennu’r Gân Sydd Ynoch Chi Heddiw!
Dysgu hanfodion ysgrifennu caneuon gyda'r cerddor a'r darlledwraig Georgia Ruth.

Meddwl Drwy Symud
Symudwch gyda'r gyfres hon o fideos a grëwyd gan ddawnsiwr Ballet Cymru.