Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Gall hyd yn oed gweithgareddau bach greu rhywfaint o le yn ystod y dydd.
Mae Florence Boyd yn gweithio gyda chyfryngau cymysg fel darlunydd a pheintiwr. Mae ei gwaith celf yn ymwneud â syniadau o’r tu mewn a’r tu allan, y bydoedd dychmygol rydyn ni’n eu creu a’u harchwilio, a sut gall rhain siapio ein bywydau o ddydd i ddydd.
Artist gyda phrofiad mewn fideograffi yw Johanna Hartwig, sy’n arbenigo mewn gweithio mewn llefydd cyhoeddus ac amgylcheddau sydd heb gelf. Mae ganddi MA mewn Newyddiaduraeth Ryngweithiol. Mae Johanna yn rhedeg Ysgol y Goedwig a gweithdai creadigol awyr agored.
Mae Kim Appleby yn artist graffeg sydd â phrofiad helaeth mewn gwaith dylunio a golygu. Mae hi hefyd yn gweithio yn Spit & Sawdust, gofod cymunedol yng Nghaerdydd sy’n gartref i barc sglefrfyrddio, caffi, gofod a stiwdios celf.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi elwa’n fawr o fod y tu allan yn fy ardal leol.
Does dim angen i ni deithio’n bell i gael ennyd o dawelwch o’n hamgylchedd. Gall hyd yn oed gweithgareddau bach greu rhywfaint o le yn ystod y dydd.
Pan fydd amser yn brin a ninnau dan bwysau, gall ymddangos yn amhosib neilltuo lle i ni ein hunain.
Mae Kim, Johanna a finnau wedi bod wrth ein bodd yn creu’r gyfres hon o weithdai creadigol byr sy’n eich gwahodd i ymgysylltu â pheth amser ‘rhwng pethau’.
Mae’r gweithgareddau’n fwriadol syml, oherwydd weithiau mae pethau da yn syml.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eu gwylio ac yn rhoi cynnig ar rai ohonyn nhw.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethBywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.
Gofalu am eich iechyd meddwl drwy ymwybyddiaeth ofalgar
Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o deimladau ac o’u rheoli drwy ymwybyddiaeth ofalgar.
Newyddion a’r Wybodaeth Ddiweddaraf am Cadw
Newyddion cyffredinol a’r wybodaeth ddiweddaraf am safleoedd Cadw.