Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Fy enw i yw Pauline Down, a gyda help y fideos byr hyn, dw i eisiau rhannu’r llawenydd a’r hwyl dwi ‘n cael wrth ganu.
Mae’r tair ffilm fer hon yn archwilio, mewn ffordd syml a chwareus, sut gall canu fod yn hwyl a chefnogi ein lles.
Rydw i wedi bod yn angerddol am ganu ers pan o’n i’n ifanc iawn. Drwy’r rhan fwyaf o’m mywyd fel oedolyn, rydw i wedi bod yn arwain corau cymunedol yma yng Nghymru.
Mae canu yn codi eich calon ac mae o’n dda i’ch lles!
Gall canu fod yn ddyrchafol, dod ag ynni o’r newydd i’r corff, rhoi hwb i’r system imiwnedd, rheoleiddio lefelau cortisol, ac felly ein helpu i gael gwared ar straen. Dim ond rhai o’r manteision llesiant yw’r rhain.
Yn y ffilm fer gyntaf, byddaf yn eich helpu i greu cysylltiad cryf a phleserus rhwng eich llais, eich anadl a’ch corff cyfan gydag ambell ymarfer syml, hwyliog, a all, yn fy mhrofiad i, drawsnewid fy egni a rhoi hwb i fy hwyliau yn gyflym iawn.
Yn yr ail ffilm, byddaf yn eich tywys tuag at ddefnyddio eich llais yn fwy rhydd gydag ymarferion creadigol hwyliog, gyda fy llais i a’m loop station i’ch cefnogi chi.
Erbyn y drydedd ffilm, byddwch yn barod i wneud gwaith byrfyfyr gyda fi a gadael eich hun i fynd wrth i ni ganu gyda’n gilydd gydag ambell harmoni lleisiol syml.
Yn gyntaf, hoffwn eich sicrhau nad oes ffordd gywir neu anghywir o wneud unrhyw un o’r ymarferion hyn.
Does dim cywir nac anghywir!
Yr hyn sy’n dda gyda chanu’n rhydd fel hyn yw ei fod yn ymwneud ag ymateb yn reddfol i’r hyn rydych chi’n ei glywed a sut rydych chi’n teimlo, ac arbrofi gyda’ch llais nes i chi ddod o hyd i synau sy’n teimlo’n dda yn y corff.
Rwy’n eich annog i chwarae a bod yn chwilfrydig. Rhowch gynnig ar y fideos ar ddiwrnodau gwahanol ar adegau gwahanol o’r dydd. Meddyliwch am hyn fel taith ddarganfod a phwy a ŵyr i ble y gallai fynd â chi!
Hoffwn ddiolch i’r holl athrawon canu anhygoel sydd wedi fy ysbrydoli ar hyd fy siwrnai canu fy hun. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i fy rhwydwaith proffesiynol: Natural Voice Network (NVN) am eu holl gefnogaeth ac ysbrydoliaeth anhygoel dros y blynyddoedd ac am eu hymroddiad diflino i hyrwyddo canu cymunedol a’i wneud yn hygyrch i bawb.
Os hoffech ddysgu mwy am gorau cymunedol neu gyfleoedd canu eraill yn eich ardal chi, mae gwefan NVN yn lle gwych i ddechrau(linc Saesneg yn unig).
Os ydych yn mwynhau’r fideos hyn ac os byddwch chi’n elwa’n bositif o unrhyw un ohonyn nhw, byddwn wrth fy modd yn clywed wrthoch chi.
Byddwn i wrth fy modd yn clywed oddi wrthoch chi!
Mae’r tri fideo wedi cael eu dyfeisio ac yn cael eu cyflwyno gan Pauline Down.
Cynhyrchu gan Gordon Plant (linc Saesneg yn unig).
“Dydw i ddim yn canu oherwydd fy mod i’n hapus, rwy’n hapus oherwydd fy mod i’n canu”
William James
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Bywyd ACTif
Cwrs hunangymorth ar-lein, am ddim i’ch helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch lles.

Gwneud Cychod Papur
Spark your creativity by building delicate paper boats that can float.

Gweithdy Dawns Greadigol
Mae'r fideos hyn gan y ddawnswraig Beth Meadway yn cynnwys technegau byrfyfyr a fydd yn eich ysgogi i symud.