Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Mae pawb yn caru stori ddoniol…
Helo ‘na!
Tom ac Ellen ydyn ni ac ry’n ni wedi bod yn creu theatr deuluol yng Nghymru ers dros deng mlynedd.
Yn y fideo hwn, ry’n ni’n rhannu rhai o’n hoff ffyrdd o ddechrau dweud stori – mae awgrymiadau, triciau, gemau a syniadau i chi roi cynnig arnyn nhw ar eich pen eich hun.
Pan fyddwn ni’n creu gwaith, mae ein pwyslais ar gael hwyl a gofalu am ein hunain – ry’n ni wastad eisiau i’n proses greadigol deimlo’n wirion a chwareus, ac ry’n ni eisiau rhannu hynny gyda chi!
Ry’n ni’n gobeithio tanio’ch dychymyg, a’ch ysbrydoli i adrodd eich straeon doniol eich hun – does dim angen i chi baratoi unrhyw beth cyn ymuno â ni, dim ond chi’ch hun!
Diolch am wylio!
Tom & Ellen
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Celf yn yr Awyr Agored
Crëwch dri phrosiect celf gan ddefnyddio deunyddiau y deuir o hyd iddynt ym myd natur gyda'r fideos hyn gan yr artist gweledol Helen Malia.
Tyfu Eich Llais
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a'ch lles.
Myfyrdod
Bydd llais Mali Hâf, ynghyd â cherddoriaeth dawel, yn eich tywys chi drwy fideo myfyrio 10 munud.