Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Gofalu am eich iechyd meddwl drwy ymwybyddiaeth ofalgar

Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o deimladau ac o’u rheoli drwy ymwybyddiaeth ofalgar.

Dysgu mwy (dolen Saesneg yn unig)
Menyw'n eistedd wrth bwrdd yn efnyddio pensiliau lliw mewn llyfr.
Wedi’i rhannu yn: Ein meddyliau a'n teimladau

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o dalu sylw i’r foment bresennol, gan ddefnyddio dulliau fel myfyrio, anadlu ac ioga. Mae’n ein helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau fel y gallwn eu rheoli’n well yn hytrach na chael ein llethu ganddynt.

Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i ddeall beth yw ymwybyddiaeth ofalgar a sut y gallai eich helpu i ofalu am eich iechyd meddwl.

Gellir defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel offeryn i reoli eich lles a’ch iechyd meddwl. Mae rhai pobl yn galw iechyd meddwl yn ‘iechyd emosiynol’ neu ‘lles’. Rydyn ni i gyd yn cael adegau pan rydyn ni’n teimlo’n isel, dan straen neu’n ofnus. Bydd y teimladau hynny’n pasio y rhan fwyaf o’r amser, ond weithiau gallant ddatblygu’n rhywbeth mwy difrifol. Gallai hyn ddigwydd i unrhyw un ohonom.

Mae’n bwysig cynnal eich iechyd meddwl, ond nid yw bod yn iach yn feddyliol yn golygu nad oes gennych gyflwr iechyd meddwl yn unig. Os oes gennych iechyd meddwl da, gallwch wneud y canlynol:

  • Gwneud y mwyaf o’ch potensial
  • Ymdopi â bywyd
  • Ymwneud yn llawn â’ch teulu, gweithle, cymuned ac ymhlith ffrindiau

Mae ymchwil ym maes ymwybyddiaeth ofalgar yn dal i dyfu. Mae tystiolaeth gyfredol yn dangos effeithiau cadarnhaol ar y meddwl, yr ymennydd, y corff ac ar ymddygiad, yn ogystal â’n perthynas ag eraill.

Dangoswyd bod ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu gyda straen, gorbryder ac iselder. Dangoswyd hefyd ei fod yn helpu gydag ymddygiadau caethiwus, a chyflyrau fel pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a phoen cronig.

Defnyddiwch y canllaw hwn i ddarganfod mwy am ymwybyddiaeth ofalgar a sut y gallai fod yn ddefnyddiol i chi.

Lawrlwythwch y canllaw ‘Sut I Hyrwyddo Ymwybyddiaeth Ofalgar Fel Dull O Edrych Ar Ôl Eich Iechyd Meddwl’

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.