Mae’n bosibl y bydd dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi at wybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, nad yw efallai ar gael yn Gymraeg.
Mae coetiroedd yn lleoedd deinamig sy’n llawn bywyd, synau, arogleuon, lliwiau a gweadau.
Mae gennym ni berthynas hynafol â choetiroedd, felly nid yw’n syndod pa mor hawdd y gallwn ni deimlo’n gyfforddus yn yr amgylcheddau hyn. Mae coetiroedd yn lleoedd sy’n dda i’r enaid.
Mae’r fideo hwn yn dangos taith fer drwy’r coetir yn casglu deunyddiau naturiol ar gyfer gwneud cerflun bach sydd hefyd yn ymgorffori cynefin gwenynen unig.
Mae chwilota am ddeunyddiau yn ein galluogi i fod yn agos at natur sy’n hollbwysig i fwynhau gweithgarwch creadigol mewn coetiroedd.
Ynglŷn â Chris Elliot
Mae Chris yn artist, yn hyfforddwr sgiliau coetir creadigol ac yn arweinydd gwylltgrefft cymwys.
Mae Chris yn byw mewn coetir yn ne Sir Benfro ac mae’n cynnal rhaglenni ar gyfer iechyd a llesiant, yn ogystal â chyrsiau a gweithgareddau i ysgolion, grwpiau, unigolion a theuluoedd o bob oed a gallu.
Cyflenwyd yr adnodd hwn gan Chris Elliot, Abi Makepeace (fideo) a Gilly Booth(sain).
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Gwneud Cychod Papur
Ysgogi eich creadigrwydd trwy greu cychod papur sy’n gallu arnofio.
Coginio ar gyfer Gofal
Archwiliwch sut y gall coginio eich helpu i arafu, i ailgysylltu â chi eich hun, ac i gefnogi eich lles cyffredinol .
Y Pethau Bychain
Monologau byrion wedi’u gosod i gerddoriaeth sy’n adlewyrchu sgyrsiau’r awdur Manon Steffan Ros â gweithiwyr gofal iechyd.