Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Crochenwaith yn y cartref

Bydd y gyfres hon o fideos gan yr artist cerameg a dylunydd Lucy Dickson yn eich arwain trwy rai technegau crochenwaith syml.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddDysgu rhywbeth newydd
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo
  • Gan: Lucy Dickson
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Mae blaen bysedd yn cyffwrdd â bwrdd gydag amrywiaeth o ddeunyddiau arno: jwg dŵr plastig, hanner llawn; lliain binc wedi'i phlygu; sbwng melyn bach crwn; dau sgwâr o glai llwyd; ffiol fach wedi'i gwneud o glai llwyd; brwsh paent; dalen sgwâr fach o bapur; cyllell crochenydd. Mae'r astell ar fwrdd pren ysgafn. Mae'r person yn gwisgo crys cotwm pinc.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Helo! Fy enw i yw Lucy Dickson, ac rwy’n artist a chynllunydd serameg sy’n byw yng Nghaerdydd.

Rwy’n angerddol am y dylanwad positif y gall creadigrwydd ei gael ar ein bywydau, ac yn bersonol, mae hynny’n golygu gwneud pethau gyda fy nwylo.

Rydw i wrth fy modd yn rhannu prosesau sy’n hygyrch, yn hwyl ac yn llonyddu.

Yn y sesiynau hyn, gadewch i fi eich tywys drwy rai technegau crochenwaith syml, a bydd angen rhai deunyddiau arnoch y dylech chi allu dod o hyd iddyn nhw o gwmpas y tŷ gan fwyaf.

Rwy’n argymell dilyn y sesiynau tiwtorial hyn mewn man tawel, gydag amser i ymlacio a mwynhau’r broses.

Deunyddiau

Fideo Un: Ffiol Blagur

  • Clai sy’n caledu yn yr aer
  • Brwsh paent
  • Cyllell
  • Sbwng
  • Dŵr
  • Cerdyn (rhywbeth fel hen gerdyn teyrngarwch)

Fideo Dau: Bowlen dorchog

  • Clai sy’n caledu yn yr aer
  • Brwsh Paent
  • Bowlen
  • Tywel papur
  • Sbwng
  • Dŵr

Fideo Tri: Potyn Print Deilen

  • Clai sy’n caledu yn yr aer
  • Brwsh paent
  • Tiwb
  • Cyllell
  • Rholbren
  • Pren mesur
  • Dail/coesau planhigyn
  • Papur newydd
  • Sbwng
  • Dŵr
  • Cerdyn (rhywbeth fel hen gerdyn teyrngarwch)

Cofiwch: Nid yw clai sy’n caledu yn yr aer yn addas i ddal hylifau

Ffilmiwyd gan: Clear The Fog

Lucy Dickson
Ffiol Blagur
Bowlen dorchog
Potyn Print Deilen

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.