Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo. Suzie Larke ydw i. Rwy’n Artist a Ffotograffydd sy’n gweithio yng Nghaerdydd.
Yn ystod y 7 mlynedd ddiwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio ar ffotograffiaeth greadigol sy’n archwilio ffyrdd o fynegi’r brwydrau o ran lles meddyliol. Rwy’n defnyddio realaeth hudol fel ffordd o ddarlunio emosiynau sy’n aml yn anodd eu cyfleu mewn geiriau.
Dros y blynyddoedd, mae creu delweddau wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth brosesu profiadau anodd ac allanoli fy emosiynau.
Mae wedi fy helpu i a phobl eraill nid yn unig i brosesu profiadau mor anodd, ond hefyd i’w gweld o bersbectif newydd.
Yna mae’r delweddau hyn yn gynrychiolaeth weledol o rywbeth rydych chi wedi gweithio eich ffordd drwyddo, y gellir ailymweld ag e.
Gyda thasgau syml, hoffwn fynd â chi ar daith er mwyn i chi allu creu eich delweddau eich hun drwy ddefnyddio ffotograffiaeth greadigol.
Drwy fy nghyfres o fideos, byddaf yn dangos dulliau syml o gymryd lluniau (neu fraslunio) sy’n cyfleu’r brwydrau emosiynol. Does dim angen camera ffansi arnoch chi i greu delweddau fel hyn. Gallwch gael canlyniadau tebyg drwy ddefnyddio’r camera ar eich ffôn ac ap am ddim. (Adobe Photoshop Express, Picsart Photo Studio)
Os oes gennych gamera a chyfrifiadur i olygu, ond heb photoshop, gallwch lawrlwytho’r teclyn golygu GIMP am ddim.
Mae’r cwrs hwn yn ymwneud ag arbrofi a chwarae gyda’ch syniadau. Does dim ffordd iawn nac anghywir o wneud pethau. Mae’n fater o ddod o hyd i ffyrdd o fynegi eich emosiynau.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Y Lolfa Jyglo
Dysgwch sut i jyglo gyda Rhian o Rhian Circus Cymru.

Gwneud Cychod Papur
Spark your creativity by building delicate paper boats that can float.

Ar eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoleg yng Nghymru
Dysgwch am amgylchedd naturiol a hanesyddol Cymru gydag adnoddau gan Amgueddfa Cymru.