Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Edrych : Gwrando : Cyffwrdd : Tynnu Llun

Three simple exercises focusing on observational drawing, drawing music and touch face drawing.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddDeall fy meddyliau a'm teimladau
  • Lle / Lleoliad: Awyr agored, Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Arweiniad neu Awgrymiadau-gorau, Fideo
  • Gan: Maria Hayes
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
A drawing consisting of swirls of blue, grey, green and white lines against a grey background.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Gall tynnu llun bob dydd eich meithrin mewn ffyrdd nad oeddech yn meddwl oedd yn bosib.

Rydw i wedi bod yn tynnu lluniau ar hyd fy oes, a dydw i ddim yn gallu meddwl am fywyd hebddo. Fel galwedigaeth, mae’n cynnal fy lles, yn fy nysgu sut i edrych a sut i ddatblygu iaith weledol, yn dangos pwy ydw i ac yn fy annog i edrych tuag allan ar y byd.

Pan fyddaf yn tynnu llun, rydw i’n arsylwi ac yn gwrando ar fy mhwnc, yn llythrennol ac yn drosiadol, gan grisialu ansawdd yr egni sy’n fy wynebu. Mae’r ddelwedd sy’n deillio o hynny yn datgelu, drwy olion cronedig, llun sy’n cyfateb i’r profiad hwnnw. Rwy’n trosi egni symudiadau a sain yn iaith weledol sy’n dawnsio ar y dudalen.

Mae fy ngwaith wedi’i arddangos yn eang ers 1986 ac mewn casgliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ddiweddar, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fy ngwaith ar gyfer eu casgliad.

Rydw i wedi cyfrannu at y sector Celfyddydau mewn Iechyd ers 1987. Ar ôl dioddef afiechyd cronig ers yn 16 oed a thrawma fel plentyn, rwy’n gwybod bod celf a cherddoriaeth wedi achub fy mywyd. Rwy’n deall pa mor therapiwtig yw ymgysylltu â’r broses greadigol. Serch hynny, rwy’n gweithio gyda Chelf â C fawr. Nid yw’n therapi. Mae ymgysylltu cymhleth â ffurfiau celf yn fy natblygu mewn ffyrdd sy’n iachusol ac yn ddadlennol.

Fy nod fel hwylusydd yw tynnu’r artist allan o’r person sy’n cymryd rhan – i dynnu’r ystum awtograffig dilys tra’n dysgu sgiliau iaith technegol a gweledol. Rwyf am roi’r adnoddau a’r hyder i’r person sy’n cymryd rhan fynegi ei hun yn y ffordd lawnaf bosib.

Dywedodd un o fy myfyrwyr:

‘Y rhan fwyaf gwerthfawr o’r cwrs oedd cael adnoddau, ar ffurf ymarferion, i ddechrau tynnu llun drwy ddefnyddio nifer o synhwyrau. Cyfunwyd rhyddid a’r defnydd o dechneg i wella fy mhroses ddysgu a chaniatáu i fi ‘ddeffro’ rhywbeth ynof fy hun’.

Cyfranogwr ar y cwrs Dylunio Cysylltiedig i oedolion. (2017 Trigonos, Gwynedd)

Gellir defnyddio’r tri ymarfer rwy’n eu cynnig i chi yn y Cwtsh Creadigol i ddatblygu eich arferion eich hun. Gwnewch nhw’n rheolaidd, defnyddiwch nhw gyda phynciau eraill a gobeithio y byddwch chi’n gweld y gall llun y dydd eich meithrin mewn ffyrdd nad oeddech chi’n meddwl oedd yn bosib.

Maria Hayes BA(Hons) MA PhD

Offer Angenrheidiol

  • Pensil
  • Miniwr pensil
  • Llyfr sgets neu papur
Edrych : Gwrando : Cyffwrdd : Tynnu Llun

EDRYCH

Sylwi wrth dynnu lluniau

Mae arsylwi’n hanfodol i dynnu lluniau. Ond mae’n anodd cadw eich llygaid ar y pwnc ac ymddiried bod eich llaw’n gwneud ei phriod waith ar y papur. Gobeithio y bydd yr ymarfer yn eich helpu i gydgysylltu eich llygad â’ch llaw a rhoi hyder ichi wrth weithio.

Ceisiwch dynnu llun bob dydd i wella eich arsylwi.

Llenwch eich llyfr braslunio drwy dynnu llun bob dydd am fis i gryfhau eich sgiliau. Bydd cyn lleied â chwarter awr y dydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Defnyddiwch bapur cetris a phensiliau B, 2B a/neu 4B. Edrychwch yn gyntaf ar y darnau tywyllaf o’ch pwnc. Wedyn cymharwch y rhain â’r rhai goleuaf gan weithio rhwng y ddau. Pan bwyswch yn drymach ar eich pensil, cewch farc tywyllach, llai o bwysau a bydd yn oleuach. Craffwch ar eich pwnc â’ch llygad a’ch llaw.

Peidiwch â phoeni am wneud copi ‘cywir’ – mae gennych gamera i wneud hynny! Nid camera mohonoch ond bod dynol sy’n teimlo. Canolbwyntiwch ar eich pwnc a daw’r gweddill yn naturiol.

Sylwi wrth dynnu lluniau

GWRANDO

Tynnu llun o gerddoriaeth

Mae cerddoriaeth yn bwysig imi. Ymatebaf yn gorfforol ac emosiynol iddi.

Wrth ddarlunio cerddoriaeth, rydych chi’n dawnsio ar y tudalen. Yn aml perfformiaf gyda cherddorion a gwnawn bethau byrfyfyr gyda’n gilydd. Gallwch wneud yr ymarfer gyda’ch llygaid ar agor neu ar gau. Haniaethol yw iaith cerddoriaeth felly sgriblo y byddwch.

Ni fydd y marciau’n ceisio darlunio pwnc ond ei efelychu’n unig. Mae ystyr yn y sgriblo.

Dewiswch eich cerddoriaeth a gwrandewch arni. Sodrwch eich papur a chael eich deunyddiau wrth law.

Gallwch ddefnyddio iPad hefyd a defnyddiaf innau’r ap Llyfr Braslunio (Sketchbook). Darluniwch wrth guriad y gerddoriaeth a hynny’n llyfn a di-baid.

Tynnu llun o gerddoriaeth

CYFFWRDD

Darlunio cyffwrdd

Drwy gau eich llygaid a thynnu lluniau drwy gyffwrdd yn unig, cewch brofi ffordd wahanol o weithio. Dysgwch sut i deimlo am bethau. Eich teimladau fydd i’w gweld yn y marciau. Gall hyn fod yn brofiad emosiynol ond daliwch ati.

Gallwch dynnu llun o’ch wyneb, cragen, carreg, asgwrn neu rhywbeth arall. Bydd hyd yn oed bum munud o’i wneud yn ddigon.

Yn gyntaf eisteddwch yn dawel gyda’ch pwnc. Gosodwch eich deunyddiau o’ch blaen a sodrwch eich papur. Mae siarcol yn ddelfrydol i’r ymarfer. Dechreuwch wrth anadlu allan a pharhau i anadlu’n dawel wrth weithio. Yn aml daliwn ein hanadl pan fyddwn yn nerfus ond mae’n tynhau eich cyhyrau ac effeithio’n wael ar y llun.

Tynnwch lun gyda’ch llygaid ar gau. Peidiwch â’u hagor nes gorffen y llun. Teimlwch eich ffordd.

Darlunio cyffwrdd

Edrych ar eich gwaith

Peidiwch â barnu unrhyw un o’ch lluniau am o leiaf flwyddyn.

Pan edrychwch arnynt, gwnewch hynny â chariad. Cofiwch ei bod yn haws eu beirniadu na’u hedmygu.

Anwybyddwch eich beirniad mewnol. Byddwch yn gariadus wrth drafod eich lluniau. Gwnewch hyn dro ar ôl tro nes ichi allu edrych yn werthfawrogol arnynt am funud gyfan.

Bydd digon o amser i edrych yn feirniadol arnynt ar ôl ichi fod yn ymarfer am o leiaf flwyddyn.

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.