Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo! Georgia Ruth sy’ ma. Dwi’n gerddor ac yn ddarlledwraig o Aberystwyth, a dwi wedi bod yn sgwennu caneuon ers mod i tua 6 mlwydd oed.
Mae llawer iawn o ddirgelwch yn perthyn i’r syniad o sgwennu caneuon.
Ond dwi’n eiddgar i ddangos ei bod yn broses syml a greddfol. Gall ddod a llawer o bleser a chysur, a mae sgwennu cân yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud, o’ch ‘stafell fyw.
Yn gyntaf, byddaf yn dangos sut i sgwennu’r geiriau. Does dim ffordd gywir o wneud hyn, dim ond bod yn yr eiliad bresennol a gofyn – sut ydw i’n teimlo nawr? A chwarae efo geiriau!
Nesaf, byddwn yn dod o hyd i alaw ar gyfer y geiriau. Eto, rydw i eisiau dangos bod hyn yn rywbeth greddfol a hwyliog y gall unrhyw un ei wneud, hyd yn oed os dydych chi ddim yn canu llawer.
Yn olaf (ac mae’r rhan yma’n gwbwl opsiynol!) byddaf yn dangos gwahanol ffyrdd o gyfeilio’r gân, a sut gall gwahanol bethau newid naws a thôn eich cân.
Ymunwch â mi a rhyddhau’r syniadau sy’n bodoli ynoch chi heddiw, efallai y cewch chi eich synnu!
Offer angenrheidiol:
• Papur a beiro
• Chi’ch hun
• Ystafell dawel a chyfforddus
• Opsiynol: offeryn (ddim yn angenrheidiol)
Adnoddau gan Georgia Ruth a Dafydd Hughes.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da
Mae Tynnwch Lun Ohonof ar Ddiwrnod Da yn broses syml i'ch rhoi ar ben ffordd wrth edrych ar y celfyddydau creadigol drwy weithgareddau syml iawn.

Melo
Mae gwefan Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles.

Pob Plentyn Cymru – Gwybodaeth i rieni
Beth bynnag oedd eich taith tuag at fod yn rhiant, os ydych yn ddiweddar wedi dod yn riant newydd, mae'r llyfrynnau hyn ar eich cyfer chi.