Mae ein cyrff a’n meddyliau yn gysylltiedig, a gall ein hiechyd corfforol gael effaith ar ein hiechyd meddwl ac i’r gwrthwyneb. Bydd y canllaw hwn gan Y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu i gael y budd o wneud ymarfer corff ar iechyd meddwl.
Gall gweithgarwch corfforol gael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl – gall symud ein corff effeithio ar ein hwyliau, ar straen, a’n hunan-barch.
Nid yw bod yn egnïol yn golygu gwneud chwaraeon neu fynd i’r gampfa yn unig. Mae llawer o ffyrdd eraill o fod yn egnïol. Dewch o hyd i’r un sy’n gweithio i chi, a gadewch i ni i gyd fod yn egnïol!
Lawrlwythwch y canllaw ‘Sut i wella eich iechyd meddwl drwy weithgarwch corfforol’
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Dyddiaduron Comic
Gwnewch eich comics dyddiadur eich hun – comics byr, hunangofiannol am ddigwyddiad ym mywyd y crëwr.
Creu Siapiau gydag Origami
Dysgwch sut i wneud craen papur, gweithgarwch syml sy'n cymryd tua 10 munud.
Prosiectau’r Arfordir: Fforio, Coginio a Myfyrio
Fideos i'ch ysbrydoli i ymweld ag arfordir Sir Benfro i fforio, coginio a myfyrio.