Chwilio am gymorth a chefnogaeth?

Ffyrdd at les

Gwaith Weiren

Dysgwch sut i greu pili-pala a gwas y neidr allan o wifren gyda’r gyfres hon o fideos gan y gwneuthurwr Beth Sill.

  • Nod / Anelu: Byddwch yn greadigolDarganfod hobi neu ddiddordeb newyddDysgu rhywbeth newydd
  • Lle / Lleoliad: Gartref
  • Maint grŵp: Ar fy mhen fy hun
  • Amcangyfrif o'r amser darllen neu wylio: Dros dri munud
  • Math: Dysgu dan arweiniad hyfforddwr, Fideo
  • Gan: Beth Sill
Fersiwn cyfeillgar i’r argraffydd
Mae person â gwallt melyn yn dal pili-pala wedi'i wneud allan o wifren gopr. Mae wedi'i addurno â gleiniau glas, glas tywyll a gwyrdd.

Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!

Mae gwaith weiren yn hawdd, yn rhad ac yn hwyl.

Helo, fy enw i yw Beth Sill. Rwy’n wneuthurwraig o Gymru sy’n arbenigo mewn gwaith weiren.

Fe ddatblygodd fy hoffter o weithio gyda weiren tra’n astudio celf safon uwch yn yr ysgol nos. Rydw i wrth fy modd yn creu gwaith celf, mae’n gwneud i fi ymlacio ac yn fy nhawelu. Mae gwaith weiren yn grefft gymharol anghyfarwydd ond mae’n hawdd, yn rhad ac yn hwyl.

Dyma 2 fideo er mwyn dangos i chi sut i wneud:

2 fideo bach hefyd:

  • Y deunyddiau + offer fydd eu hangen arnoch chi (3mun)
  • Ychydig o ymarferion a fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â defnyddio’r weiren

Film: Jonathan Dunn (linc Saesneg yn unig).

Deunyddiau ac offer fydd eu hangen arnoch chi

  • Gefail & thorrwr
  • 1mm weiren
  • 1.2 mm weiren
  • Tâp mesur
  • Gleiniau a botymau

Bydd y fideos hyn yn rhoi amlinelliad o’r weiren a strwythur eich pryfed ac yna gallwch chi ychwanegu beth bynnag sy’n eich gwneud chi’n hapus! Gleiniau, botymau, rhubanau lliwgar. Pan fyddwch chi wedi gorffen gallwch chi eu harddangos gartref, yn yr ardd, efallai yn y gwaith neu yn yr ardd gymunedol yn y gwaith?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau creu eich pryfed unigryw!

Ynglŷn â fi

Rydw i wedi bod yn creu pethau ar hyd fy oes. Ar ôl cwblhau fy safon uwch mewn celf, rydw i wedi canolbwyntio ar waith weiren.

Rwy’n mwynhau’r broses o greu cerfluniau. Mae’n rhoi boddhad ac mae’n gyffrous gweld y siâp yn ymddangos. Rwy’n gwneud cerfluniau, comisiynau unigryw yn ogystal â chynnal gweithdai.

Wire Exercises (Saesneg yn unig)
Materials and Tools (Saesneg yn unig)
A Wire Butterfly (Saesneg yn unig)
A Wire Dragonfly (Saesneg yn unig)

Ymunwch â'r gymuned Hapus

Cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf a dysgu sut i gymryd rhan.

Dysgu mwy a chofrestru
Dau menyw yn paratoi bwyd gyda'i gilydd mewn cegin.
Oedolyn hyn a'i ferch yn dyfrio planhigion gyda'i gilydd.
Dyn hen yn dyfrio planhigion yn ei heulfan.
Menyw yn cymryd llun o'i hunain yn Henhyd Falls.