Mi all y pethau fwyaf di-nod yn eich cartref sbarduno’r syniadau mwyaf creadigol yn eich dychymyg.
Croeso i Stiwdio Syniadau, cyfres fer dwi’n gobeithio bydd yn eich annog chi i ddefnyddio nwyddau o’ch cartref / gardd er mwyn sbarduno syniadau newydd a gwneud y broses ysgrifennu yn un hwyl.
Fy enw i ydy Mari Elen, dwi’n sgwennwr, podlediwr a pherfformiwr yn byw yng Ngogledd Cymru, a dwi’n caru dod o hyd i ffyrdd newydd o sbarduno syniadau. Dwi wedi bod yn ‘sgwennu ers blynyddoedd, sgwennu’n broffesiynol a sgwennu i deimlo’n well, ond weithiau dwi’m yn gwybod lle i ddechrau.
Yn y ddau fidio yma, mi fydda i’n eich arfogi chi hefo technegau newydd i chi gadw ym mocs twls eich ymennydd i’ch helpu chi ddechrau sgwennu. Mi fyddwn ni’n dod o hyd i blot, creu cymeriadau a chael hwyl.
Does ‘na’m ffiniau pan ydach chi’n sgwennu’n greadigol, a dyna sydd yn ei wneud mor gyffroes! Peidiwch poeni am gywirdeb iaith, dim ond mwynhau’r broses sydd yn bwysig.
Offer angenrheidiol: Papur, Beirio, Hen Gylchgronnau / Papurau Newydd / Llyfrau, Esgidiau Addas I Fynd Am Dro.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Cyflwyniad i Gyfres Horton
Mae’r fideos hyn, a grëwyd gan goreograffydd preswyl Ballet Cymru, yn archwilio ymarferion yn seiliedig ar dechneg ddawns fodern Lester Horton.
Atgofion Positif
Casglu atgofion positif a chreu gosodiadau celf eclectig bach, rhad.
Gwirfoddoli Cymru
Chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal leol, ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Boed hynny’n ymwneud â bod yn greadigol, yn egnïol, helpu eraill, gwella’r amgylchedd neu ymgyrchu, gallwch chi ddefnyddio’r hidlydd chwilio i ddod o hyd i’r hyn sy’n addas i chi.