Mae ysgrifennu yn gwneud i mi deimlo’n well.
Mae o weithiau yn gwneud i mi sylweddoli rhywbeth nad oeddwn i’n ymwybodol ohono fo cynt – pethau da a phethau drwg.
Weithiau mae’n braf cael dianc i fyd dw i wedi’i greu.
Tro arall mae rhoi fy mhroblemau i lawr ar bapur yn eu rhwystro rhag troi a throi yn fy mhen.
Yn y tair fideo dw i’n eich gwahodd i ymuno efo fi ac ysgrifennu ychydig eich hun. Dw i ddim isio i chi boeni am bethau fel sillafu, ac am ei “wneud o’n iawn”, dim ond neilltuo ychydig funudau i’ch hun a rhoi eich syniadau a’ch ofnau a’ch breuddwydion chi i lawr ar bapur.
Fydd neb arall yn y byd yn ysgrifennu stori fel eich stori chi.
Diolch i Llinos Griffin o gwmni Gwefus am greu’r fideos.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Symud Drwy Lawenydd
Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.

Crwydro
Casgliad o dair ffilm ddawns i'ch arwain at eiliad o dawelwch ym myd natur.

Bocs O Gemau
Cymerwch ran yn y naw her hyn, sy'n cynnwys ysgrifennu, lluniadu, cof a'ch dychymyg.