Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
“Ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol.”
Sarah Featherstone ydw i ac rwy’n artist ac yn awdur. Hyfforddais fel nyrs yng Nghaerdydd yn y nawdegau, a gweithiais yn Rookwood ac Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn ddiweddarach, fel nyrs ardal yng Ngheredigion. Erbyn hyn, rwy’n cynnal sesiynau llesiant creadigol yn y gymuned sy’n cyfuno creu printiau, paentio ac ysgrifennu creadigol.
Hoffwn rannu gyda chi sut i wneud Straeon Lluniau, ffordd wych o ddatblygu eich llygad creadigol a phroses a allai ddod yn rhan o’ch trefn bob dydd yn ddigon hawdd. Byddwch yn datblygu cyfres ddiddorol o waith yn gyflym y gellir ei rannu â ffrindiau a theulu. Mae straeon lluniau yn ddelfrydol i’w rhoi ar eich cyfrif Facebook neu Instagram os oes gennych un, neu os nad oes, maen nhw’n gofrodd gwych o rywbeth sydd wedi’ch ysbrydoli chi fel delwedd, a thrwy ystyriaeth ddyfnach ohoni, i greu eich cerdd neu ddarn o ryddiaith.
Yn ystod y cyfnod clo, ar fy nheithiau cerdded dyddiol, dechreuais gymryd lot o luniau ar fy ffôn – lluniau o bethau yn fy ardal leol nad oeddwn wedi sylwi arnyn nhw o’r blaen. Fe helpodd i dynnu fy meddwl oddi ar feddyliau pryderus neu ailadroddus a dod â fy sylw nôl i’r presennol. Oherwydd bod gen i fwy o amser i sylwi, des i’n fwy chwilfrydig, gan arafu i edrych ar fanylion y byddwn wedi’u colli o’r blaen.
Yn raddol, fe ddatblygais gasgliad o ddelweddau diddorol ar ôl bod yn cerdded, a sylweddolais eu bod yn berffaith ar gyfer creu straeon neu gerddi byrion. Rhoddais her i fi fy hun – i ysgrifennu cerdd i gyd-fynd â’m hoff luniau ar ffurf tair llinell y Haiku Japaneaidd. Yna byddwn yn ychwanegu’r gerdd at fy nelwedd mewn blwch testun a’i llwytho i’m blog neu gyfrif Instagram fel cofnod o’m diwrnodau.
Gobeithio y cewch eich ysbrydoli i roi cynnig ar greu straeon lluniau. Os ydych chi’n llwytho eich straeon lluniau ar Instagram, ystyriwch ychwanegu’r hashnod #CwtshCreadigol – byddai’n wych rhannu a chael ein hysbrydoli gan waith ein gilydd.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Positive News
Newyddion am ddim bob dydd, cylchlythyr wythnosol a phodlediad. Yn canolbwyntio ar sut mae pobl, cymunedau a sefydliadau yn newid y byd er gwell.

Cysgu’n well
Bydd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn eich helpu chi i wella ansawdd eich cwsg.

Rheoli gorbryder ac ofn
Gall canllaw’r Sefydliad Iechyd Meddwl eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddeall a rheoli teimladau o orbryder ac ofn.