Mae’r canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnig awgrymiadau ar sut i gysgu’n well. Mae’n edrych ar sut i wella ansawdd eich cwsg, beth sy’n achosi anhwylderau cysgu ac atebion posibl. Mae’n cynnwys awgrymiadau gan feddyg cwsg, a thempled o ddyddiadur cysgu i’ch helpu chi i gadw golwg ar eich cwsg.
Mae cwsg yn effeithio ar y ffordd rydym yn defnyddio iaith, yn talu sylw, ac yn deall yr hyn rydym yn ei ddarllen a’i glywed. Os nad ydym yn cael digon o gwsg, gall effeithio ar ein perfformiad, ein hwyliau, a’n perthynas ag eraill. Mae tystiolaeth hefyd bod cwsg yn amddiffyn y system imiwnedd. Mae faint o gwsg sydd ei angen ar bob un ohonom yn wahanol. Fodd bynnag, argymhellir y dylai oedolyn iach gysgu, ar gyfartaledd, rhwng saith a naw awr bob nos.
Dydy cwsg da ddim yn golygu llawer o gwsg yn unig: mae’n golygu’r math cywir o gwsg. Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y pedwar prif beth sy’n effeithio ar ansawdd ein cwsg – iechyd, amgylchedd, agwedd a ffordd o fyw.
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popethPob Plentyn Cymru – Gwybodaeth i rieni
Beth bynnag oedd eich taith tuag at fod yn rhiant, os ydych yn ddiweddar wedi dod yn riant newydd, mae'r llyfrynnau hyn ar eich cyfer chi.
Gwirfoddoli Cymru
Chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal leol, ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Boed hynny’n ymwneud â bod yn greadigol, yn egnïol, helpu eraill, gwella’r amgylchedd neu ymgyrchu, gallwch chi ddefnyddio’r hidlydd chwilio i ddod o hyd i’r hyn sy’n addas i chi.
Action for Happiness
Mae Action for Happiness yn dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu adnoddau ymarferol er mwyn helpu i greu byd hapusach a byd sy’n fwy caredig.