Datblygwyd yr offeryn hwn fel rhan o Cwtsh Creadigol, a oedd yn ganolbwynt lles creadigol ar-lein ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, a grëwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid ledled y wlad.
Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn gyffrous i rannu’r offeryn lles meddyliol hwn, ochr yn ochr â llawer o adnoddau creadigol eraill, gyda phawb yng Nghymru!
Helo, fy enw i yw Iori. Sylfaenydd a chyfarwyddwr Choirs For Good, a dwi wedi bod yn arweinydd côr sy’n gweithio ym maes y celfyddydau ac iechyd ers dros 10 mlynedd.
Rydyn ni gyd yn gwybod bod canu yn cael effeithiau positif ar ein hiechyd a’n lles. Yn lleihau lefelau, cynyddu ymateb imiwnedd, a helpu i wella’r ysgyfaint.
Mae Tyfu eich llais yn rhaglen 4 cam i helpu i hybu eich iechyd a’ch lles.
Byddwn yn dysgu am anadlu, ystum, y llais, a hefyd canu cân neu ddwy ar hyd y ffordd.
Rwy’n gobeithio rhoi rhai offer ac ymarferion defnyddiol i chi ddefnyddio bob dydd, ac os ydych chi erioed yn teimlo dan straen neu angen bach o ‘pick me up’, efallai bydd hyn helpu!
Efallai byddwch yn hoffi
Gweld popeth
Niwro-benillion
Gwyliwch gyfres o ffilmiau sy'n edrych ar y cysylltiad rhwng ysgrifennu a chemeg yr ymennydd.

Edau i’r enaid
Cwblhewch brosiect tecstilau cyflym a hawdd gyda'r fideos hyn gan yr artist Haf Weighton.

Symud Drwy Lawenydd
Mae ‘Symud drwy Lawenydd' yn gyfres o weithdai dawns a symud sydd wedi’u hanelu at godi eich ysbryd a chadw eich corff a'ch meddwl yn iach.